330 likes | 525 Views
Uned TGCh 1 Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth. Data. Ffeithiau a ffigurau sy’n ddiystyr ar eu pennau eu hunain e.e. darlleniadau synwyryddion, ffeithiau archwiliad. Gwybodaeth . Data sydd wedi ei brosesu gan y cyfrifiadur. Mae ganddo gyd-destun sydd yn rhoi ystyr iddo. Dealltwriaeth.
E N D
Uned TGCh 1 Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Data Ffeithiau a ffigurau sy’n ddiystyr ar eu pennau eu hunain e.e. darlleniadau synwyryddion, ffeithiau archwiliad Gwybodaeth Data sydd wedi ei brosesu gan y cyfrifiadur. Mae ganddo gyd-destun sydd yn rhoi ystyr iddo Dealltwriaeth Yn deillio o’r wybodaeth drwy osod rheolau arno. Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau Data: 1,12, 1.4,2, 12, 1.2, 3,16, 1.1 Gwybodaeth: Amserau nofio 100m Rhif y nofiwr Grŵp oedran Amserau (munudau) 1 12 1.4 2 12 1.2 3 16 1.1 Dealltwriaeth: Nofiwr rhif 2 yw’r cyflymaf yn ei grwp oedran.
Mathau data • Boole • Un o ddau werth – gwir/anwir, IE/NA 1/0 e.e., oes anabledd arnoch? • Cyfanrif • Rhifau yn unig e.e. blynyddoedd ysgol 7 8 9 10 • Real • Degolion e.e. ar gyfer storio arian cyfred • Testun/Llinyn • Unrhyw nod alffaniwmerig; gall gynnwys rifau ac/neu symbolau e.e. enw, cyfeiriad, cod post, rhif ffôn
Data wedi’i godio Manteision • Arbed cof • Cyflymach i deipio • Camgymeriadau trawsgrifio yn llai tebygol • Gwell cysondeb data Anfanteision • Barnau ar werth yn cael eu gosod i grwpiau neu gategorïau arbennig • Garwhau data wrth ei ffitio i gwrpiau • Pa mor glyfar wyf i? • Twp • Cymhedrol • Iawn • Athrylith
Mae gwybodaeth dda yn gyfoes,yn gywir, ac yn gyflawn, yn berthnasol ac wedi eidargedu’n gywir • Ychwanegu gwerth drwy helpu gwneud penderfyniadau Mae penderfyniadau yn cael eu seilio ar y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd; os nad yw hyn yn gyflawn nac yn gyfoes, gall gael effaith wael ar y sefydliad neu’r cwmni. • Monitro cynnydd. Mae gwybodaeth a gesglir trwy ymchwil marchnata (e.e. holi pobl ar y stryd, holiaduron a ddanfonir i sampl o gartrefi) a ffigurau gwerthiant yn helpu gwneud hyn. • Gall dargedu rhesymeg a strategaeth e.e. trwy brynu mwy o un nwydd am ei fod yn gwerthu’n dda. Dylid anelu hysbysebu a marchnata nwydd at y bobl sy’n debygol o’i brynu; fel arall mae’n wastraff arian ac amser. • Ennill mantais dros gystadleuwyr. Gall wybodaeth ddweud wrth sefydliad sut mae’n perfformio o’i gymharu â chystadleuwyr. Er enghraifft, gall wybodaeth ddangos gwagleoedd mewn marchnad y gellir, gyda gwybodaeth dda, eu llanw.
Casglu’r data Data a gasglwyd yn uniongyrchol Rhaid i’r cwmni neu sefydliad gael ffordd o gasglu gwybodaeth e.e. creu ffurflenni, holiaduron, samplau a.y.y.b. Yn achos ffurflenni a holiaduron, bydd rhaid eu hargraffu, eu danfon a’u casglu. Nid yw pawb yn ymateb i ffurflenni a holiaduron; bydd rhaid dosbarthu mwy er mwyn cael sampl teg yn ôl. Yn aml, bydd pobl yn cael eu cymell i ymateb, e.e., bydd eu henwau yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth raffl er mwyn ennill gwobr ar ôl iddynt ddychwelyd eu ffurflen. Data a gasglwyd yn anuniongyrchol Efallai bydd rhaid i’r sefydliad brynu’r wybodaeth neu dalu trydydd person i gael at y data. • Cost gwybodaeth • 3 chategori • Arian • Amser • Adnoddau dynol Data entry Bwydo data - Mae bwydo data i mewn yn cymryd amser bydd rhaid talu staff i’w wneud. Mewnbwn uniongyrchol Mae yna ddulliau awtomataidd o gofnodi data – darllenwyr marc optegol (DMO), adnabod nod yn optegol (ANO), darllenwyr cod bar a.y.y.b. Mae angen prynu caledwedd/meddalwedd arbennig, a hyfforddi staff i’w defnyddio. Prosesu data Unwaith mae’r data wedi ei gofnodi, rhaid ei brosesu i fod yn wybodaeth. Mae angen adnoddau meddalwedd a chaledwedd i wneud hyn. Gall feddalwedd ddod ‘oddi ar y silff’, hynny yw yn syth o’r siop, neu gall gael ei ddatblygu yn arbennig ar gyfer y sefydliad neu’r cwmni. Bydd hyn yn gostus naill ffordd neu’r llall. Cynnal a chadw data Mae yna gostiau i sicrhau cadw data yn gyfoes ac yn gywir. Er enghraifft, rhaid i sefydliad gynnal cronfa ddata o’i gwsmeriad. Bydd y gronfa ddim ond yn gywir os bydd unrhyw newidiadau i fanylion cwsmeriaid yn cael eu cofnodi a’u hychwanegu. Rhaid cyfathrebu gyda chwsmeriaid a sicrhau bod eu manylion yn gywir.
Mae’r dasg o gadw data yn gyfoes yn gostus. • Mae’r dulliau a ddefnyddir yn cynnwys: diweddaru cyson (teipio’r newidiadau) casglu data yn gyson trwy holiaduron, llythyrau neu ffurflenni gwirio systemau rhyngweithiol fel y gall person ddiweddaru ei f/manylion ei hun dileu data sydd wedi dyddio neu data nad oes ei angen rhagor sicrhau bod pob copi o’r data wedi ei ddiweddaru fel bod pawb yn defnyddio yr un data sydd wedi ei wirio. Enghraifft 2 Does dim pwrpas cael rhestr bostio os nad yw’r cyfeiriadau yn gywir. Ar ôl i bobl symud tŷ, bydd y post yn parhau i gael ei ddosbarthu i’r hen gyfeiriad hyd nes bod y rhestr bostio yn cael ei diweddaru. Rhaid i gwmnïau sydd yn gwerthu eu cynnyrch drwy bost uniongyrchol (llythyrau sothach yw’r term mwyaf cyffredin!) gadw rhestri cyfoes o enwau a chyfeiriadau pobl sydd yn debygol o ddangos diddordeb yn eu cynnyrch. Mae rhestr sydd wedi dyddio yn hollol ddiwerth. Cofier bod pobl yn symud tŷ, heneiddio, marw ac yn newid eu diddordebau a’u harferion prynu.
Gwallau ar gofnod data • Gwireddu yw’r broses o sicrhau bod y data wedi ei gopïo’n gywir o un cyfrwng i gyfrwng arall. • Chwilio am wallau yn weledol. • Llyfrifo dwbl • Y mathau o gamgymeriadau y gellir eu canfod: • Camgymeriadau trawsgrifio/teipio • Teipio’r nod anghywir ar ddamwain e.e. 2 yn lle 7 • Camgymeriadau trawsddodiad • h.y., teipio ond yn y drefn anghywir e.e. 56789 yn lle 57689 • Dilysiad yw’r broses o sicrhau bod y data yn ddilys ac yn gyfreithlon. • Gwiriadau fformat • e.e. y dyddiad fel 2002/ 09.11 yn lle 11/09/02 • Mygydau mewnbwn e.e. mynedu data mewn ffordd sydd wedi ei rheoli: cod post LLRR RLL • Mwgwd mewnbwn ar ddyddiad 99/99/99
Math o ddilysiad Esboniad Enghraifft Gwiriadau amrediad Mae’r data rhwng amrediad arbennig • Rhaid bod y rhif mynediad rhwng 1 a 9999999999 Gwiriadau fformat Dyddiadau 12/04/03 Gwiriadau presenoldeb Rhaid bod yna nod yn bresennol mewn man arbennig e.e. rhaid i’r ddwy lythyren gyntaf fod yn BL i ddynodi blwyddyn BL7 Digidau gwirio Rhif a ychwanegir i god Codau bar ar docynnau llyfrgell Dyddiad geni Gwiriadau fformat 12/09/95 Gwiriadau amrediad rhwng 1/9/86 – 31/8/94 Mygydau mewnbwn 99/99/9999 Rhif mynediad Gwiriad presenoldeb e.e. YGA 123454 ( rhaid dechrau gydag YGA) Cod llyfrgell Digid gwirio Rhyw G neu B
Manteison defnyddio TG • Cyflymder prosesu • Cywirdeb prosesu tasgau ailadroddus • Cyflymder trosglwyddiad • Fformatiau allbwn gwahanol: graffiau, adroddiadau a.y.y.b. • Cadw a golygu gwaith ymhellach yn y dyfodol
Ffactorau sy’n effeithio effeithlonrwydd y defnydd o TG • GIGO • Cyfaddasrwydd caledwedd neu feddalwedd at y dasg • Lefel gallu’r defnyddiwr • Newidiadau mewn amgylchiadau yn ystod datblygiad y system gyfrifiadurol • Gweithrediad gwael a phrosesau cynnal a chadw • Cyfyngiadau cost ar yr ateb.
Rhyngwyneb Person â Chyfrifiadur(HCIs) • GUIs Ffenestri Iconau Dewislenni Pwyntydd, Tiwtorialau ar-lein – yn ddefnyddiol i’r defnyddiwr dibrofiad, plant. • Bysellau cyflym testun Dos – i’r defnyddiwr profiadol • Wedi ei yrru gan ddewislen er mwyn cwtogi ar ddewisiadau • Llais • Arbenigeddau e.e. sensitif i gyffyrddiad
Ffeiliau fflat v cronfeydd data perthynol Cronfa ddata • Casgliad mawr o ffeiliau perthynol o eitemau data a chysylltiadau rhyngddynt. Mae wedi ei strwythuro fel bod modd ei ddefnyddio gan nifer o wahanol rhaglenni cymhwysiadau. Ffeil • casgliad o gofnodion perthynol Cofnodion • Yr uned sylfaenol o ddata wedi ei storio ar ffeil data. • Mae’n gasgliad o eitemau, efallai o fathau data gwahanol, sydd i gyd yn perthyn i’r unigolyn neu’r gwrthrych mae’r cofnod yn ei ddisgrifio. • Mae’n cael ei drin fel uned ar gyfer prosesu. • Meysydd • Yn rhannau o gofnod, wedi eu dylunio i gadw un eitem data unigol o fath arbennig. • Yn cadw eitemau data o’r un math data Maes allweddol • Yn werth unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod cofnod.
Aelodau Bwciadau Staff Aelodau Staff Bwciadau Aelodau Ffeil fflat Linked on primary keys Cronfa ddata berthynol Staff ManteisionAnfanteision Cwtogi dyblygu data Mwy drud i’w creu Sicrhau cysondeb data DBMS – angen ei gynnal yn gyson Sicrhau cywirdeb data Rheoli data afraid
Dysgu trwy gymorth cyfrifiadur (CAL)Tiwtorialau Disgyblion ag anghenion arbennig; Rhaglenni sillafu ag elfen ryngweithiol sy’n profi disgybl gyda chwisiau, gemau a phrofion. Mae system sgoiro yn galluogi myfyrwyr i asesu eu cynnydd. Yn aml bydd yr atebion yn cael eu datgelu ar ôl 3 chynnig. Defnyddir lluniau a synau i ehangu’r profiad.Rhaglenni adolygu TGAU DYSGU O BELL Ni fydd myfyrwyr wastad yn yr un lle â’r athro. Cwrs dysgu o bellter lle mae’r tiwtor yng Ngogledd Cymru. Mae’r myfyrwyr yn cael llyfrynnau’r cwrs a gwaith ymarferol. Defnyddir fideogynadledda i drafod problemau sy’n codi. Mae’r gwaith yn cael ei farcio’n electronig. Cyrsiau ar-lein e.e. y Brifysgol Agored Gall yr rhain gael eu seilio ar fewnrwydi prifysgolion neu ar y we. Mae rhai modiwlau prifysgol yn hollol gyfrifiadurol, gydag adrannau gwybodaeth a thasgau. Mae’r meddalwedd yn cofnodi faint o’r cwrs yr ydych wedi ei gwblhau; os nad ydych yn cwblhau’r cwrs byddwch ym methu’r modiwl. Mae Gwefannau e-ddysgu ar gael erbyn hyn. Gall danysgrifwyr wneud lefel-A ar-lein sydd wedi ei gymeradwyo gan gyrff arholi megis OCR. Rhoddir credydau e-ddysgu i ysgolion yn Lloegr; defnyddir y rhain i brynu cyrsiau ar-lein. Siopau siarad i drafod cyrsiau a phroblemau gyda’r tiwtor.
Manteision defnyddio TG ar gyfer DYSGU AC ADDYSGU • Mae mwy o ryngweithio yn cadw sylw disgyblion. • Adborth cyflymach ar brofion ar-lein • Yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd gwahanol i ddysgu ac amrediad o ffynonellau gwybodaeth. • Yn galluogi’r defnyddiwr i ddysgu ar ei g/chyflymder ei hun pan mae’n gyfleus iddo/iddi. • Yn galluogi defnyddiwr i ‘adolygu’ gwaith cynharach eto, rhag ofn eu bod heb ddeall, h.y. ailadrodd adrannau y cawsant drafferth â hwy yn flaenorol. • Mae hyfforddiant wedi ei seilio ar gyfrifiadur yn lleihau costau’r cyflogwyr yn sylweddol; gall hefyd fod yn fwy diogel os oes perygl. Manteision defnyddio TG ar gyfer GWEINYDDU • Mynediad cyflymach at ddata - chwiliadau cyflymach e.e. chwilio am yr holl fyfyrwyr mewn blwyddyn arbennig, a didoli cyflymach e.e. rhestru myfyrwyr yn ôl eu cyfenwau yn nhrefn yr wyddor. • Amrywiaeth o fformatau allbwn e.e. adroddiadau printiedig, dogfennau wedi eu postgyfuno, a.y.y.b. • Mae trosglwyddo data yn gyflymach ac yn symlach, e.e.Faster and simpler to transfer data e.g. cofnodion arholiad • Yn arbed amser wrth atgynhyrchu llythyrau safonol e.e. llythyrau i rieni am nosweithiau rhieni, diwrnodau mabolgampau a.y.y.b. Dim ond man-newidiadau fydd angen ar y rhain bob blwyddyn. • Mwy o ddiogelwch • Yn arbed ar le i storio’r wybodaeth mewn storfa/swyddfa.
Problemau wrth ddefnyddio TG mewn addysg Mae TG yn gostus ac mae angen buddsoddiad ariannol mawr; rhaid cynnal a diweddaru hyn yn gyson. Gall gytundebau cynnal a chadw gostio hyd at filoedd o bunnoedd, sy’n tynnu arian i ffwrdd o adnoddau dysgu traddodiadol megis llyfrau. Darpariaeth anheg o adnoddau TG, a, felly, anwastadrwydd mewn cyfleoedd dysgu. Bydd gan ysgolion cyfoethocach gwell adnoddau. Yn cwtogi ar sgiliau cymdeithasol Mae rhai addysgwyr yn dadlau nad oes gan ddisgyblion iau yr un cyfle ar gyfer dysgu mewn grwpiau. Mae Tecstio yn cael ei y bai am ostyngiad mewn sgiliau sillafu oherwydd y defnydd cynyddol o fyrfoddau. Diffyg cymorth personol. Nid yw dysgu o bellter yn cynnig y cymorth personol sydd ei angen ar y rhan fwyaf o fyfyrwyr pryd a ble y mae ei angen arnynt; mae hyn yn hollbwysig os yw’r myfyriwr yn isel ei hyder neu yn methu deall y cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Gorddibyniaeth e.e. os oes methiant ar y pwer nid oes modd ei ddefnyddio.
Prosesu geiriau / DTP Golygu Newid testun a graffeg a’u harbed Fformatio Arddulliau testun, paragraff a phwyntiau bwled a.y.y.b. Patrymluniau Dogfenni gwreiddiol â gosodiad wedi ei ragddiffinio wedi eu storio e.e. llythyrau/papur ysgrifennu â phennawd Taflenni arddull Mewnolion wedi eu rhagddiffinio, gosodiadau tab ac arddulliau ar gyfer is-benawdau
Taenlenni Graffiau Haws i ddarllen data ar ffurf graff nag ar ffurf rhestr neu dabl. Trosglwyddo dealtwriaeth yn syth. Patrymluniau Yn arbed ailwneud gosodiadau ar gyfer taenlenni cwmni bob tro. Yn safoni delwedd. Ystadegau Mae’r defnydd o swyddogaethau cyffredin megis SUM AVERAGE a.y.y.b. yn arbed amser.
Meddalwedd cyflwyno • Patrymluniau Themâu ac arddulliau cefndirol, gyda phob tryloywder yr un peth â’r gwreiddiol. Yr un logo, lliwiau, gosodiad a.y.y.b. • Trawsnewidiadau animeiddiedig Symudiad a chyfeiriad testun a lluniau. Arddangosiad graffigol wrth symud o un tryloywder i’r llall. • Fformatio Defnyddio arddulliau ffont, meintiau a phwyntiau bwled ar gyfer penawdau ac isbenawdau.
Gwe-awduro • Fframiau i weithio ynddynt a rheoli gosodiad • Hypergysylltiadau i wefannau eraill • Mannau poeth yn hypergysylltiadau ar graffigau/lluniau i wefannau eraill neu rannau eraill o’r un dudalen • Llyfrnodau yn hypergysylltiadau mewnol i rannau eraill o’r dudalen • Cod iaith HTML er mwyn creu gwefannau
Nodwedd Diffiniad Mantais Lliniogi neu rendro Gellir arddangos gorffeniadau neu ddefnyddiau gwahanol Gellir gwneud ymchwiliadau ‘beth os’ i ganfod y gorffeniad gorau Chwyddo Chwyddo darnau o ddarlun i’w wneud yn fwy Cynhyrchu gwaith manylach neu ychwanegu dyluniad manwl Cylchdroi Cylchdroi mewn 3D ar draws echelinau X,Y a Z Gweld dyluniad o bob ongl allanol Archwiliad rhaglen Ymweld ag ystafelloedd a.y.y.b. mewn 2D Yn rhoi ymwybyddiaeth ofodol o berthynas ymddangosiad dyluniad â nodweddion eraill Costiadau Cynhyrchu amcangyfrif o gost y defnyddiau adeiladu Rhoddir amcangyfrifiadau awtomatig; gall ddylunydd archwilio opsiynau gwahanol neu weithio o fewn cyllid. Diriant a straen Gweithio allan y pwysau gall ddeundyddiau ymdopi â hwy Yn osgoi trychinebau yn hwyrach wrth adeiladu; dylai’r dylunydd adeiladu o fewn y gofyniadau diogelwch Lluniadau gwifren Gweld y dyluniad heb orffeniadau na ffurf solet Yn helpu gyda phersbectif a chanfod adrannau dan ddiriant a straen CAD Cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur
Perygl Ataliad RSI repetitive strain injury -Anaf straen ailadroddus, a achosir gan weithio/chwarae ar gyfrifiaduron am gyfnodau hir Byseddellau ergonomig, cymorth i’r garddyrnau a’r traed; lleoli cadeiriau yn gywir Straen i’r llygaid a Ffitiau Epileptig Sgriniau sydd ddim yn fflachio; Hidlyddion sgrin i atal llacharedd; goleuo cywir yn yr ystafell Trafferthion gyda’r cefn Cadeiriau y gellir eu haddasu; cymorthion traed; gogwyddo sgriniau Cosi poenus oson o achos argraffyddion laser Lleoli’r argraffydd 1 metr i ffwrdd o’r defnyddiwr Effeithiau ymbelydredd ar embryonau sy’n achosi erthyliadau naturiol Does dim tystiolaeth gadarn o hyn
Systemau arbenigo • System gyfrifiadurol sydd yn efelychu gallu arbenigydd dynol i wneud penderfyniadau yw system arbenigo. • Mae system wedi ei seilio ar wybodaeth yn ceisio cymryd lle ‘arbenigydd’ dynol mewn maes arbennig. • Mae’n rhoi diagnosis ar broblemau ac yn cynnig cyngor ar yr hyn gallai fod wedi achosi’r problemau hynny. Gall hefyd roi cymorth ar ddatrysiadau.
Diagnosis meddygol Nid yw cyfrifiadur cyn cymryd lle meddyg; ond mae’n cael ei ddefnyddio i helpu’r meddyg i wneud penderfyniadau. Byddai gan system arbenigo gwybodaeth am afiechydon a’u symptomau, y cyffuriau a ddefnyddir i’w trin a.y.y.b. Bydd meddyg yn holi claf am symptomau; bydd yr atebion yn cael ei bwydo i’r system arbenigo. Mae’r cyfrifiadur yn chwilio’r gronfa ddata, yn defnyddio ei reolau ac yn gwneud awgrymiadau am yr afiechyd a’r ffyrdd o’i drin. Ambell waith bydd tebygolrwyddau yn cael eu rhoi i ddiagnosis.
Manteision. • Gall gyfrifiadur storio llawer mwy o wybodaeth na pherson. Gall ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau megis gwybodaeth o lyfrau ac astudiaethau achos i helpu gyda’r diagnosis a’r cyngor. • Nid yw cyfrifiadur yn ‘anghofio’ nac yn gwneud camgymeriadau. • Gellir cadw data yn gyfoes. • Gellir defnyddio system arbenigo 24 awr y dydd; ni fydd byth yn ‘ymddeol’. • Gellir defnyddio’r system o bellter ar draws rhwydwaith. Gall ardaloedd gwledig neu hyd yn oed gwledydd yn y trydydd byd gael at arbenigwyr. • Ceir rhagdybiau manwl gyda thebygolrwyddau pob problem posib gyda chyngor mwy cywir a manwl. • Mae’n well gan rai pobl breifatrwydd sgwrsio gyda chyfrifiadur. Cyfyngiadau/ anfanteision systemau arbenigo • Gorddibyniaeth ar gyfrifiaduron • Gallai rhai ‘arbenigwyr’ goll eu swyddi; ni fydd eraill yn derbyn hyfforddiant os oes yna gyfrifiaduron ar gael i wneud yr un swydd. • Nid oes ‘cyffyrddiad dynol’ - diffyg cyswllt dynol. • Yn ddibynol ar gael y wybodaeth gywir. Os yw’r data neu’r rheolau yn anghywir, bydd y cyngor anghywir yn cael ei roi. • Nid oes gan systemau arbenigo ‘synnwyr cyffredin’. Nid oes ganddynt ddealltwriaeth o’u swyddogaeth na’u cyfyngiadau a’u defnyddioldeb, na sut mae eu hargymhellion yn perthyn i gyd-destun ehangach. Pe byddai MYCIN yn ymateb i glaf sy’n gwaedu i farwolaeth ar ôl cael ei saethu, byddai’r rhaglen yn rhoi diagnosis o achos bacteriol i symptomau’r claf. • Gall systemau arbenigo wneud gwallau abswrd, megis darnodi dogn sydd yn amlwg yn anghywir i glaf am fod y clerc wedi mewnosod oed a phwysau’r claf yn y mannau lle y dylai’r llall fod.
Dysgwch hyn i gyd Siopa Dyfeisiadau mewnbwn Dyfeisiadau allbwn Dyfeisiadau storio Prosesau ar gyfer rheoli stoc yn awtomatig Manteision rheoli stoc yn awtomatig Manteision e-fasnach Anfanteision defnyddio systemau siopa sydd wedi eu seilio ar gyfrifiaduron.
Cod ymddygiad wrth ddefnyddio rhwydweithiau • Peidiwch rhannu eich cyfrinair ag unrhyw un • Newidiwch eich cyfrinair yn gyson • Sganiwch bob disg am firysau • Peidiwch cam-ddefnyddio’r we e.e. e-bost, siopau siarad • Dim hacio • Peidiwch â dwyn caledwedd/meddalwedd
Cyfrifiaduron a'r gyfraith • Hacio Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 • Blacmel drwy • ddefnyddio • cyfrifiadur • Lledu firws
Y Ddeddf Hawlfraint Cyfrifiaduron a'r Gyfraith Yn anghyfreithlon i gopïo meddalwedd Mathau o drosedd hawlfraint • Copïo anghyfreithlon - lladrad meddalwedd • Prynu un copi cyfreithlon a’i lwytho i gof sawl cyfrifiadur • Llwytho meddalwedd I lawr o’r we a chreu copi.
Y Ddeddf Gwarchod Data Cyfrifiaduron a'r Gyfraith Beth allwn ni ei wneud? • Pam mae pobl yn pryderu : • Bod y data yn anghywir • Hacio i ddata personol • Gofyn am ddata sy’n amherthnasol i’r pwrpas, e.e., ‘Beth yw eich crefydd?’ • Hyd yr amser y cedwir y wybodaeth amdanynt ar gyfrifiadur • Gwerthiant data a roddwyd at un pwrpas (e.e. gwybodaeth feddygol) i gwmnïau sy’n cynhyrchu rhestri postio ar gyfer llythyrau sothach. Mynnu gweld y data a’i gywiro Cadw cyfrineiriau diogelwch da a.y.y.b. Cyfiawnhau a chofnodi pam mae angen y data hwnnw Dileu unrhyw ddata heb ei ddefnyddio ar ôl gorffen Nid oes caniatád i werthu data ymlaen
Egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data • 1. Cedwir data personol yn gyfoes ac yn gywir. • 2. Ni ddylid defnyddio data personol a gasglwyd yn gyfreithlon at un pwrpas ar gyfer • unrhyw bwrpasau eraill. • 3. Rhaid bod y data yn berthnasol ar gyfer y rheswm y’i rhoddir. • 4. Ni ddylid cadw data personol yn hirach nag sydd angen. • 5. Dylid ei gadw’n ddiogel rhag ei golli arhag mynediad ato heb ganiatád. • 6. Ni ddylid trosglwyddo data personol i wlad y tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd (EEC)
Eithriadau ar ddata 1. Data Personol sydd ei angen gan Gyllid y Wlad 2. Data Personol a ddefnyddir ar gyfer diogelwch cenedlaethol neu gan gyfreithiwr/gyfreithwraig mewn achos cyfreithiol 3. Data Personol a gedwir gan y defnyddiwr ar ei hun a’i deulu e.e. ffeiliau ar benblwyddi, cyfeiriadau a.y.y.b.