290 likes | 480 Views
Uned TGCh 1 Rhwydweithiau. CYFATHREBIADAU. Rhesymau dros dyfiant rhwydweithiau Lleihad mewn costau meddalwedd a chaledwedd yn eu gwneud yn fwy cyffredin. Datblydiad y swyddfa di-bapur, gyda rheolwyr yn defnyddio prosesyddion geiriau, systemau ffeilio a.y.y.b. ar eu desgiau
E N D
Uned TGCh 1 Rhwydweithiau
CYFATHREBIADAU Rhesymau dros dyfiant rhwydweithiau • Lleihad mewn costau meddalwedd a chaledwedd yn eu gwneud yn fwy cyffredin. • Datblydiad y swyddfa di-bapur, gyda rheolwyr yn defnyddio prosesyddion geiriau, systemau ffeilio a.y.y.b. ar eu desgiau • Angen rheolwyr i gael at wybodaeth gyfredol a chywir • Datblygiad cyfathrebiadau ffôn a lloeren sy’n safonol a dibynadwy. • Mae’n dod yn bwysicach i ddefnyddio dulliau newydd o drosglwyddo gwybodaeth yn gyflym ac yn ddibynadwy.
Diffiniadau Beth yw Rhwydwaith? • Casgliad o gyfrifiaduron cysylltiedig (gan geblau rhwydwaith) yw rhwydwaith. Gallant felly gyfathrebu gyda’i gilydd. Mae gan bob gorsaf gwaith cerdyn datgodio; trwy hyn fe gysylltir y cêbl â’r cyfrifiadur. Mae’r cerdyn yn cael ei weithredu gan feddalwedd y gyrrwr cerdyn. • Cyfrifiadur arunig yw’r term am gyfrifiadur sydd heb ei gysylltu â rhwydwaith.
Rhwydweithiau cyfrifiadurol • Mae yna ddau fath o rwydwaith gyfrifiadurol: • Rhwydwaith Ardal Leol (‘LAN’) - mae’r cyfrifiaduron i gyd yn yr un ystafell, neu mewn adeiladau gwahanol ar un safle wedi’u cysylltu’n barhaol gan geblau arbennig.. • Rhwydwaith Ardal Eang (‘WAN’) - mae’r cyfrifiaduron wedi eu gwasgaru ar draws ardal ddeaearyddol eang; nid ydynt wedi’u cysylltu yn barhaol: maent yn defnyddio gwirfau ffôn, trosglwyddyddion radio neu gysylltiadau lloeren.
Manteision ac anfanteision rhwydweithiau • Manteision • Gellir rhannu argraffyddion • Gellir rhannu rhaglenni • Gellir rhannu data • Gall ddefnyddwyr gyfathrebu gyda’i gilydd • Gall ddefnyddwyr e-bostio • Nid oes rhaid defnyddio yr un cyfrifiadur. • Anfanteision • Mae rhwydweithiau yn gostus i’w prynu a’u cynnal • Mae pawb yn cael eu heffeithio os yw rhwydwaith yn torri • Mae angen camau digelwch arbennig i arbed defnyddwyr rhag defnyddio rhaglenni a data heb awdurdod.
Anfanteision Rhwydweithiau Ardal Leol Nid yw’n newyddion da i gyd. Rhaid i’r sefydliad dalu staff technegol i gynnal y rhwydwaith. Mae angen ychwanegu neu ddileu cyfrifon defnyddwyr wrth i bobl ymuno neu adael sefydliad. Am fod data defnyddwyr wedi ei storio ar y disgiau caled yn y gweinyddion mae angen cadw copïau wrth-gefn cyson; byddai cryn gythrwfwl pe collwyd y data. Mae rhwydweithiau yn methu o bryd i’w gilydd, ac yna ni all neb yn y sefydliad ddefnyddio’r cyfrifiaduron. Wrth i fwy o bobl logio ymlaen i’r rhwydwaith, rhaid i’r gweinyddion rannu eu hamser rhyngddynt; efallai bydd y system yn arafu. Mae defnyddwyr yn anghofio eu cyfrineiriau ac yn methu logio ymlaen, sy’n achosi gwaith ychwanegol i Reolwr y Rhwydwaith. Mae gan bob defnyddiwr le penodol ar y ddisg galed, yn aml maent yn mynd y tu hwnt i’r cyfyngiadau ac yn galw am ragor o le. Mae rhai defnyddwyr yn dueddol o greu pob math o ddrygioni gan hacio i ardaloedd defnyddwyr eraill, llwytho neu osod meddalwedd heb ganiatâd, dwyn perifferolion, tagu’r system ag e-bostion, anghofio logio i ffwrdd a.y.y.b. Gall ddiogelwch achosi cryn drafferth.
Rhyngrwyd, Mewnrwyd ac Allrwyd Rhwydwaith Ardal Eang yw’r Rhyngrwyd - mewn gwirionedd, mae’n gasgliad anferth o rwydweithiau wedi’u cysylltu drwy fynedfeydd - mae’r rhain yn gwneud i’r system weithio fel un rhwydwaith anferth. • Mae nifer o rwydweithiau mewn diwydiant, busnes, addysg uwch a swyddfeydd llywodraethol wedi’u cysylltu â’r we, er y gall unrhyw un gysylltu gan ddefnyddio’r meddalwedd a’r caledwedd priodol a modd o gael at ISP (Internet Service Provider )...e.e. Freeserve, AOL, Demon a channoedd eraill. • Gall ddefnyddiwr gael gwybodaeth am unrhyw beth. Mae yna gyfarpar chwilio sy’n galluogi chwilio’r We Fyd-Eang am unrhyw destun, ac mae gan bob tudalen gysylltiadau i dudalennau eraill a.y.y.b... • - Mae hefyd yn bosib lawr lwytho meddalwedd a ffeiliau (e.e. graffeg NASA) • - byrddau bwletin (fforymau) neu grwpiau newyddion, lle gallwch adael negeseuon neu gyfathrebu’n uniongyrchol gyda defnyddwyr eraill. • Mae busnesau yn creu gwefannau ar y we oherwydd... • ..gallant hysbysebu. Mae’n galluogi pobl i gael gwybodaeth am yr hyn maent yn ei wneud a’i werthu. • ..gall bobl e-bostio ag ymholiadau, archebion, gofyniadau • ..gallant gyrraedd cynulleidfa ryngwladol Gweler y nodiadau diweddarach
Mewnrwyd • Sefydlir mewnrwyd yn gyfan gwbl o fewn LAN. Gellir storio a chael mynediad at dudalennau’r we o unrhyw le ar rwydwaith; gellir hefyd ddanfon e-bostion yn fewnol o fewn y LAN. • Gall gwmni sefydlu mewnrwyd a galluogi’r gweithwyr i ddanfon negeseuon at ei gilydd a defnyddio porwr i gyrraedd gwybodaeth y cwmni a gedwir fel tudalennau gwe. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer hyfforddi staff. Allrwyd • Os yw cwmni yn caniatáu mynediad o’r tu hwnt i’w fewnrwyd, yna mae’n dod yn allrwyd. Ceir mynediad fel arfer trwy fur gwarchod (meddalwedd sydd ond yn caniatáu mynediad i’r data i ddefnyddwyr â chaniatâd).
Gwarchodaeth Rwydwaith Mae yna dri math o warchodaeth i rwydwaith – gwarchodaeth CORFFOROL, gwarchodaeth MYNEDIAD a gwarchodaeth DATA. • Mae Gwarchodaeth Corfforol yn diogelu’r galedwedd: • Rhifau cyfresol – Cadw cofnod o bob rhif gyfresol. • Larymau – Gwarchod yr ystafell gyfrifiadurol gyda larymau. • Drysau a ffenestri – I’w cloi pan nad yw’r ystafell yn cael ei defnyddio. • Diogelwch rhag tân – Defnyddio drysau tân a larymau tân
Diogelwch rhag trosedd • Hacio - Hierarchiaeth Cyfrineiriau • Dilysu ac awdurdodi ID • Amgryptio: • codio un pen • danfon gwybodaeth ar ffurf wedi ei sgramblo • datgodio ar y pen arall • rhaid bod gan y ddau ben godiau. • Cardiau smart • Cardiau rhaglenadwy i reoli mynediad i ystafelloedd
Mae Gwarchodaeth Mynediad yn cyfyngu ar y bobl gall ddefnyddio rhwydwaith • Rhaid rhoi enwau defnyddiwr a chyfrineiriau i bob defnyddiwr â chaniatâd. Bydd hyn yn cyfyngu ar ddefnydd o’r rhwydwaith heb awdurdod. • Ni ddylai fod modd dyfalu cyfrineiriau a ni ddylid rhannu cyfrineiriau gyda neb na’u hysgrifennu. • Dylai ddefnyddwyr newid eu cyfrineiriau yn rheolaidd. • Gellir cwtogi ar ddefnydd diawdurdod trwy roi hawliau gwahanol i ddefnyddwyr gwahanol. Er enghraifft, rhoddir mynediad llawn i reolwyr y rhwydwaith, tra bydd defnyddwyr eraill wedi’u cyfyngu i ddefnyddio rhaglenni megis prosesyddion geiriau.
Y rhannau sy’n gwneud rhwydwaith Nid mater o gysylltu cyfrifiaduron gyda cheblau yn unig yw rhwydweithio. Dyma rai cydrannau sydd i’w cael mewn rhwydweithiau fel arfer. Meddalwedd Gall feddalwedd rhwydwaith fod yn rhan o system weithredu (e.e. Windows98, Windows XP) neu gall fod yn feddalwedd arbennig ar gyfer rheoli rhwydwaith. Ceblau Defnyddir ceblau cysylltu fel arfer i gysylltu dyfeisiau mewn rhwydwaith, er y cysylltir rhai rhwydweithiau gyda thonnau radio neu donnau meicro.
Cysylltyddion Defnyddir cysylltyddion i gysylltu ceblau’r rwydwaith â therfynellau neu dyfeisiau eraill. Cardiau Rhyngwyneb Rhwydwaith (NICs) Rhaid cael dyfais a elwir yn Gerdyn Rhwyngwyneb Rhwydwaith er mwyn defnyddio cyfrifiadur fel terfynell ar rwydwaith. Mae NIC yn edrych fel bwrdd cylchedd ac yn ffitio i un o’r prif gysylltyddion ar y prif fwrdd cylchedd (y Famfwrdd/Mother Board) y tu mewn i’r cyfrifiadur Mae gan NCIs gysylltyddion arnynt ar gyfer ceblau’r rhwydwaith.
Trawsyrru data • Cysylltiadau cyfathrebu • Rhaid bod yna gysylltiad cyfathrebu er mwyn i gyfrifiaduron gyfathrebu gyda’i gilydd. • Nid ceblau yw’r cysylltiadau hyn o reidrwydd; nid yw wastad yn bosib i’w gweld a’u cyffwrdd. • Gall y cysylltiadau fod yn donnau radio, meicrodonnau neu is-goch.
Cyfryngau Cêbl Cêbl metel Mae gan geblau metel wifrau metel (copr fel arfer). Mae’r data yn cael eu yrru ar hyd yr rhain, fel arfer ar ffurf cerrynt amrywiol. Ceblau ffibr opteg Mae ceblau ffibr opteg yn gweithio wrth drawsyrru data fel cyfres o bylsau golau ar hyd ffibr gwydr tenau. Mae un sypyn o wifrau yn cario negeseuon mewn un cyfeiriad, tra bod sypyn arall yn cario negeseuon yn ôl yn y cyfeiriad arall. Mae opteg ffibr yn ddefnyddiol ar gyfer trawyrru data oherwydd maent yn gyflym a nid ydynt yn cael eu heffeithio gan ymyrraeth fel ceblau metel.
Cyfryngau di-wifren Tonnau radio Mae’r data yn cael ei drawsyrru trwy gyfes o donnau radio. Meicrodonnau Mae ffonau symudol yn defnyddio meicrodonnau. Maent yn ddelfrydol ar gyfer cysylltu cyfrifiaduron mewn dau adeilad sy’n gymharol agos at ei gilydd. Mae systemau lloeren hefyd yn defnyddio meicrodonnau. Is-goch Mae hyn yn gweithio yn eithaf tebyg i reolydd teledu. Ni all signal is-goch deithio yn bell iawn; mae hyn yn cyfyngu ar eu defnydd. Fe’u defnyddir yn aml y gysylltu gliniadur ac argraffydd fel y gellir danfon data rhwng y ddau heb geblau.
Y Rhyngrwyd • Mae’r Rhyngrwyd yn cysylltu PCs preifat, rhwydweithiau cyhoeddus a rhwydweithiau busnes gan ddefnyddio gwifrau ffôn mewn un rhwydwaith byd-eang anferth. Mae hefyd yn galluogi defnyddwyr cyfrifiaduron i rannu a chyfnewid gwybodaeth gyda’i gilydd o unrhyw le yn y byd. • Mae gwybodaeth ar y we yn dod mewn sawl fformat gwahanol e.e. ffeiliau testun e-bost syml, cerddoriaeth, fideo, meddalwedd cyfrifiadurol.
Cysylltu â’r we • Mae angen cyfrifiadur â modem a llinell ffôn. • Mae’n bosib cael cysylltiad cyflymach gyda math arbennig o ffôn digidol a elwir yn linell ISDN; nid oes angen modem ar hwn. • Gellir prydlesi llinell arall yn arbrnnig i’r we. • Mae llinell brydles yn linell ffôn breifat sy’n agored 24awr y dydd. • Band-eang; mae llinellau digidol cyflym iawn ar gael ond maent yn gostus. • Mae llwybrydd yn ddarn arbennig o feddalwedd sy’n cydlynnu’r cyfnewid negeseuon rhwng cyfrifiaduron a gweddil y Rhyngrwyd. • Dod o hyd i Ddarparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (Internet Service Provider (ISP))
Y We Fyd-eang (WWW) • Y we fyd eang yw rhan helaethaf y rhyngrwyd • Mae tudalennau o wybodaeth yn dechrau gyda ‘hafan’ (‘home page’) • Cysylltir tudalennau gyda’i gilydd trwy ddefnyddion hyperdestun • Cynhyrchir hyperdestun trwy ddefnyddio iaith clustnodi hyperdestun (Hypertext Mark-up language neu HTML)
Porwr • I bori, neu ‘syrffio’, ar y we, mae angen rhaglen bori • Mae Microsoft Internet Explorer a Netscape Navigator yn defnyddio peiriannau chwilio i chwilio am wybodaeth trwy ddefnyddio allweddeiriau.
URL • Uniform Resource Locator • Mae’r rhain yn rhoi lleoliadau safleoedd unigol ar y We Fyd-Eang • Mae’r rhan fwyaf yn cychwyn gyda http//:www. • Maent yn aml yn datgelu’r wlad mae’r wefan wedi ei lleoli, e.e. .uk ar gyfer y Deyrnas Unedig. Maent hefyd yn dangos os yw’r wefan yn fasnachol gyda naill ai .co neu .com, sefydliad llywodraethol gyda .gov, neu sefydliad academaidd gyda .ac http:// - defnyddio iaith clustnodi hyperdestun www. - y we fyd-eang demon. - enw’r parth (enw’r perchennog a’r math o wefan) Com - parth lefel-uchaf, sefydliad neu wlad /index - tudalen arbennig
E-bost Danfon negeseuon rhwng un cyfrifiadur ac un arall ar draws rhwydwaith Fideogynadledda Cyfathrebu’n weledol gyda defnyddwyr eraill ar y we. E-fasnach Prynu nwyddau ar-lein Tele-fancio Rheoli trafodion ariannol, talu biliau, newid arian rhwng cyfrifon banc a.y.y.b. We-gyhoeddi Creu a gweinyddu gwefannau personol ar gyfer diddordebau arbennigol a.y.y.b. Llinellau siarad Danfon negeseuon, ‘Siarad’ ar-lein Darlledu Cerddoriaeth (MP3) a fideo Lawr lwytho Meddalwedd, gyrwyr a ffeiliau eraill Gwasanaethau sydd ar gael ar y we
Siopa ar-lein • Galluogi defnyddwyr y we i brynu nwyddau a gwasanaethau ar-lein unrhyw bryd, ddydd a nos, heb orfod teithio i unrhyw le a heb y drafferth o siopa mewn siopau prysur • Mae rhai cwmnïau yn cynnal eu holl fusnes dros y we ac yn cyrraedd marchnad fyd-eang. Ebay
Manteision siopa ar-lein • Nid oes rhaid talu costau busnes arferol megis rhent a chyflog. • Gellir cynnig amrywiaeth ehangach o nwyddau oherwydd gellir eu harchebu o’r cyflenwyr yn ol yr angen, yn hytrach cadw nwyddau ar silffoedd drwy’r amser. • Nid oes arian wedi ei glymu mewn stoc sydd heb eu gwerthu, na chwaith yn cael ei wastraffu ar nwyddau amhoblogaidd. • Gellir casglu data am gwsmeriaid a’u harferion prynu yn uniongyrchol; gellir defnyddio’r data yma i gynnig gwasanaeth llawer mwy personol sy’n unol â gofynion ac anghenion cwsmeriaid.
Anfanteision siopa ar-lein • Fel arfer, mae angen mynedu rhifau cardiau debyd neu gredyd cyn cwblhau trafodion ar-lein. Mae yna beryg y gall y rhifau hyn gael eu dwyn gan hacwyr a’u defnyddio ganddynt i wneud trafodion heb awdurdod. Mae’r defnydd o eiriau cytûn, gwefannau taliad diogel, amgryptio a chardiau smart yn gallu helpu diogelu rhag hyn. • Gall droseddwyr sefydlu gwefannau ffug yn cynnig nwyddau a gwasanaethau, yn aml gan ddefnyddio enw cwmni go-iawn. Gall hyn arwain pobl i wario arian ar nwyddau/gwasanaethau na fyddant fyth yn eu derbyn. Mae hyn hefyd yn rhoi enw drwg i’r cwmniau gwreiddiol. • Mae casglu gwybodaeth am gwmnïau maent yn cystadlu yn eu herbyn yn haws i fusnesau: gallant chwilio trwy wefannau cystadleuwyr yn hawdd. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i aros yn gystadleuol.
Systemau archebu ar-lein • Galluogi defnyddwyr y we i ymchwilio, a hefyd i archwilio, pethau megis: • Tocynnau i’r theatr, sinema neu gyngherddau • Seddi ar fysiau, trenau ac awyrennau • Ystafelloedd mewn gwestai • Yn y bôn, gwefan y gellir ei defnyddio i gyrraedd cronfa ddata pell yw system archebu ar-lein • Manteision • Ni ddylai archebu gormod ddigwydd • Gellir cynnig dewisiadau eraill os nad yw’r cyntaf ar gael • Mynediad at gronfa ddata ehangach o wybodaeth
Peryglon defnyddio’r we • Hacwyr • Meddalwedd mur gwarchod • Hierarchaeth cyfrineiriau • Firysau • Fe’u lledir yn aml trwy e-bost • Rhaglenni canfod a dileu firysau • Defnydd anweddus a phedoffilyddion mewn siopau siarad • Meddalwedd i rwystro mynediad i wefannau • Goruchwyliaeth oedolion • Gwasanaeth hidlo gwefannau gan yr ISP
Manteision defnyddio’r we • Cyfathrebu’n hawdd gyda phobl eraill • Adnodd dysgu gwerthfawr oherwydd bydd angen sgiliau defnyddio’r we ar gyfer swyddi yn y dyfodol • Galluogi pobl i weithio o adref gan ddefnyddio rhwydweithiau cyfrifiadurol (teleweithio) • Gellir cael mynediad at swm anferth o wybodaeth • Gellir cael mynediad at wybodaeth gyfoes ar-lein yn syth heb orfod aros nes ei gyhoeddi • Mae cyhoeddi dogfennau ar y we yn arbed papur • Adnodd gwerthfawr i gwmnïau hysbysebu a rhedeg busnes
Anfanteision defnyddio’r we • Gallai llawer o’r wybodaeth fod yn amherthnasol neu’n anghywir, oherwydd nid yw’r wybodaeth yn cael ei wirio • Mae llawer o wybodaeth anweddus, megis pornograffi, ar gael yn hawdd • Gellir rhyng-gipio negeseuon ar draws y we yn hawdd a’u cam-ddefnyddio gan bobl eraill • Gellir creu biliau ffôn mawr yn hawdd • Gall wario gormod o amser ar y we arwain at ddiffyg cydweithredu wyneb-yn-wyneb gyda phobl eraill a cholli sgiliau cymdeithasol • Mae bod ar-lein yn cynyddu’r peryg y gall hacwyr neu firysau achosi difrod i’r cyfrifiadur