140 likes | 279 Views
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion. Cwrdd ag anghenion unigolion. Beth mae hyn yn ei olygu?. Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal. Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion.
E N D
Cwrdd ag anghenion unigolion Beth mae hyn yn ei olygu? Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal. Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pam mae cynllunio gofal yn bwysig? Mae cynllunio gofal yn rhoi sylw i holl anghenion yr unigolion sy'n gallu effeithio ar iechyd a lles, er enghraifft anghenion meddygol. A allwch feddwl am bum angen arall? Defnyddiwch y delweddau i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau. addysgol iechyd meddwl economaidd Anghenion gofal ? ? personol cefndir ethnig a diwylliannol meddygol Drwy ystyried amgylchiadau ehangach yr unigolyn, gellir personoli cynllunio gofal ar ei gyfer. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Y cylch cynllunio gofal: beth mae'n ei gynnwys Trafodwch beth mae pob cam yn ei olygu a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Gall gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol wneud hyn, neu unigolyn neu ei ofalwr. Atgyfeirio Mae hyn yn pennu'r cymorth y mae ar yr unigolyn ei angen. Trafod effeithiolrwydd y cynllun gofal ac a ddylai'r gofal barhau, gael ei wella neu ei leihau. Asesu Cynhychu cynllun gofal sy'n nodi pwy fydd yn gwneud beth a pha bryd, a'r gwasanaethau y bydd yn eu defnyddio. Cynllunio Gofal Adolygu/Gwerthuso Gwirio i sicrhau bod yr unigolyn yn cael y gofal cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Monitro Gweithredu Cyflawni'r cynllun gofal. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Y cylch cynllunio gofal: y ffordd o'i gyflawni Trafodwch sut mae pob cam yn cael ei gyflawni a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Dros y ffôn, drwy'r e-bost neu lythyr i'r gwasanaethau cymdeithasol neu feddyg teulu. Atgyfeirio Yn achos gofal cymdeithasol, gwneir hyn yn y cartref fel arfer lle bydd cyfweliad â'r unigolyn ac arsylwir arno'n cyflawni set o dasgau ymarferol. Yn achos gofal iechyd, bydd hyn yn digwydd mewn ysbyty fel arfer. Adolygir pob cynllun gofal o fewn y chwe wythnos gyntaf ac o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd cyfarfodydd ymysg y tîm amlddisgyblaethol a hefyd â'r unigolyn a'i deulu. Asesu Bydd tîm amlddisgyblaethol yn cwrdd, ac yn ymgynghori â'r unigolyn a'r gofalwr. Cynllunio Gofal Adolygu/Gwerthuso Ymweld â'r cartref, galwadau ffôn, llythyrau, holiaduron, arsylwi a chofnodi unrhyw gwynion. Monitro Gweithredu Bydd y rheini sydd wedi'u henwi yn y cynllun gofal yn cyflawni'r tasgau sydd wedi'u nodi ar eu cyfer. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Rhoi'r cynllun gofal ar waith Nawr gwyliwch y clip fideo hwn am Gladys, menyw oedrannus sydd â chynllun gofal sy'n ei galluogi i aros gartref. Wrth wylio'r clip, meddyliwch am fanteision y cynllun gofal i Gladys. Cliciwch yma i gael tabl gwag i'w lenwi wrth wylio'r fideo. Cliciwch ymai gael tabl sy'n cynnwys rhai syniadau enghreifftiol i'w cymharu â'ch rhai chi. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pwy allai gael ei atgyfeirio ar gyfer asesu? Gellir atgyfeirio unigolion sydd ag amrywiaeth o anghenion iechyd neu gymdeithasol. Defnyddiwch y lluniau isod i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau. Pobl â nam ar y synhwyrau Pobl ag anableddau dysgu Pobl ag anghenion iechyd meddwl Pwy? Pobl sy'n camddefnyddio sylweddau Pobl ag anableddau corfforol Gofalwyr sydd ag angen cymorth Pobl hŷn ag anghenion gofal Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Beth mae asesu'n ei gynnwys? Edrychwch ar y delweddau hyn a thrafodwch beth allai asesu ei olygu. Mae asesu'n golygu ystyried galluoedd yr unigolyn yn fanwl er mwyn pennu ei anghenion gofal. Cliciwch yma i weld enghraifft o restr wirio ar gyfer asesu. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pwy sy'n cymryd rhan wrth asesu? Mae nifer o ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd rhan yn y broses cynllunio gofal ochr yn ochr â'r unigolyn a'i ofalwr. Cofnodwch rai enghreifftiau yma a chliciwch ar y blychau isod wedyn i weld ein hawgrymiadau. Gofal Iechyd Gofal Cymdeithasol Gweithiwr cymdeithasol neu weithwyr eraill gan gynnwys therapydd galwedigaethol. Mewn practisau meddygon teulu: nyrsys practis Mewn ysbytai: nyrsys arbenigol Mewn cartrefi: Metronau cymunedol, rheolwyr achosion a gweithwyr gofal cymdeithasol. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pa ofal sy'n cael ei roi drwy gynllun gofal? Cofnodwch enghreifftiau yma ac wedyn cliciwch ar y blychau isod i weld ein hawgrymiadau. Gofal Cymdeithasol Gofal Iechyd Anghenion gofal iechyd cyffredinol: • Meddyginiaeth • Hylendid personol • Siopa • Newid gorchuddion/cathetrau • Golchi a smwddio • Mynd i mewn ac allan o'rgwely • Coginio • Gwirio pwysedd gwaed • Cludiant • Glanhau • Gofal lliniarol • Offer anabledd ac addasiadau yn y cartref • Ffisiotherapi Cymorth i wneud tasgau byw pob dydd: Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Ymyriadau Dewiswch chwe ymyriad isod y gellid eu cynnwys yn y cynlluniau gofal ar y dde. Cliciwch i amlygu'r lliw sy'n cyfateb i'r cynllun gofal. Sedd toiled uwch Ymweliadau gan weithwyr gofal penodedig Gosod lifft grisiau Urddas a hylendid (1 clic) Hebrwng i bractis meddyg teulu Rhoi pigiadau Gwirio pwysedd gwaed System intercom Newid gorchuddion Rhoi meddyginiaeth Diogelwch a sicrwydd (2 glic) Cymorth i wisgo Darparu cyllyll a ffyrc wedi'u haddasu Gosod cawod cerdded i mewn Casglu presgripsiynau Canllaw diogelwch ar y gwely Larwm galw am gymorth Gofal iechyd (3 chlic) Darparu padiau anymataliaeth Golchi dillad Gosod peiriant codi o'r bath Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Prif nodweddion y cynllun gofal Trafodwch brif nodweddion y cynllun gofal gan gofio ateb y cwestiynau canlynol: Beth? Pwy? Pa bryd? Wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. • Pa ofal neu offer y mae eu hangen. • Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal, gwasanaeth neu offer hyn. • Pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cynllun gofal wedi'i gyflawni. • Enwau'r bobl allweddol sy'n gysylltiedig a sut i gysylltu â nhw. • Pa bryd mae disgwyl i'r gwasanaethau ddechrau. • Dyddiad adolygu. Cliciwch ymai weld cynllun gofal gwag enghreifftiol. Cliciwch ymai weld cynllun gofal enghreifftiol wedi'i lenwi. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Manteision cynllunio gofal Mae tair mantais wedi'u rhestru isod. A allwch feddwl am bump arall? Cofnodwch eich syniadau ac wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. Mantais 2 Mantais 1 Mantais 3 Dewis o driniaethau wedi'i benderfynu gan grŵp o arbenigwyr, yn hytrach nag un meddyg. Gofal wedi'i gydgysylltu'n well a dilyniant gwell. Gwneud diagnosis cywir. Mantais 4 Mantais 5 Mantais 6 Mantais 7 Mantais 8 • Llai o oedi wrth gael gofal ac amseroedd aros byrrach. • Ystyried yr holl anghenion gofal. • Hyrwyddo annibyniaeth. • Gofal a gwasanaethau wedi'u personoli. • Cynnig gwybodaeth briodol a chyson. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Astudiaethau achos Edrychwch ar yr astudiaethau achos isod a meddyliwch am anghenion gofal y ddau unigolyn. Trafodwch sut byddai cynlluniau gofal yn cael eu dyfeisio ar eu cyfer. Mae Sophia yn 38 oed. Mae'n briod a chanddi ddau blentyn. Ar ôl darganfod lwmp yn ei bron mae wedi cael diagnosis o ganser. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i helpu menywod drwy wneud diagnosis, atal a thrin canser y fron. Cliciwch yma i weld tabl sy'n dangos yr anghenion sydd wedi'u pennu ar gyfer y ddau unigolyn. Mae Stuart yn fachgen 5 oed a gafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd ar ôl damwain. Nawr rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn, mae ei leferydd yn aneglur ac mae arno angen cymorth â phob gweithgarwch byw pob dydd. Mae'n byw gyda'i rieni a dau frawd. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i ddiwallu anghenion gofal y teulu. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion