180 likes | 378 Views
Trychineb Polis ïau Cynllunio a Diogelwch. Peryglon i ddata. Bwriadol Terfysgaeth Fandaliaeth droseddol/ difrod Trosedd coler-wen Damweiniol Llifogydd neu d ân Newid data yn ddamweiniol Trychinebau naturiol. Rhaid i gwmn ïau:.
E N D
Trychineb Polisïau Cynllunio a Diogelwch
Peryglon i ddata Bwriadol • Terfysgaeth • Fandaliaeth droseddol/ difrod • Trosedd coler-wen Damweiniol • Llifogydd neu dân • Newid data yn ddamweiniol • Trychinebau naturiol
Rhaid i gwmnïau: • Sicrhau nad yw data, caledwedd a meddalwedd yn cael eu colli neu eudifrodi. • Adfer systemau cyfathrebu cyn gynted ag sy’n bosib. Canlyniadau • Colli busnes ac incwm • Colli enw da • Achos cyfreithiol
Bwriadol • Terfysgaeth e.e. Bomiwr Oklahoma Adeilad Ffederal Oklahoma ar Ebrill 19eg 1995 – dinistriwyd cofnodion ffederal. • Fandaliaeth Troseddol /Difrod e.e. dinistrio gweinyddwyr rhwydweithiau drwy lwytho firysau. • Dwyn data gan weithwyr i’w werthu i gystadleuwyr. • Trosedd coler-wen megis newid data mewn cronfa ddata yn fwriadol e.e. trosglwyddo arian o gyfrifon y cwmni i gyfrifon preifat.
Damweiniol • Llifogydd a thân, e.e. pan ffrwydrodd terfynfa olew Buncefield dinistriwyd cofnodion y cwmni mewn ystad ddiwydiannol gerllaw. • Newid data yn ddamweiniol e.e. gweithwyr di-brofiad yn dileu cofnod archeb mewn ffeiliau cwsmeriaid. • Trychinebau naturiol megis pan ddinistriwyd cofnodion geni, marw a banc.
Sut i atal colled damweiniol • Dinistrio ffeiliau’n ddamweiniol o achos tân, terfysgaeth a llifogydd • Rhaid disgrifio systemau wrth-gefn • Cadw ffeiliau wrth-gefn – oddi ar y safle – mewn cynhwysydd gwrth-dân • Defnyddio tâp ar-lein neu ddisg rhuban sy’n arbed data wrth-gefn ar rwydwaith yn awtomatig • Defnyddio system ddiogelwch taid-tad-mab mewn systemau swp-brosesu e.e. rhestr gyflogau • Systemau RAID – disgiau drych (Redundant Array of Inexpensive Disc) • Dinistrio ffeiliau’n ddamweiniol o achos camgymeriad dynol a.y.y.b. • Mesurau gwirio a dilysu • Atal trosysgrifo • Rhoi’r bwlch arbed-ysgrif ar eich disg • Gwneud disgiau caled yn ddarllen-yn-unig
Atal niwed maleisus • Hacio, mynediad heb awdurdod • Lledu trosedd cyfrifiadurol • Twyll cyfrifiadurol • Dinistr corfforol drwy fandaliaeth a therfysgaeth
Hacio – mynediad heb awdurdod • Ataliad • Diffinio statws diogelwch a hawliau mynediad i ddefnyddwyr • Dylid rhoi enw defnyddiwr a chyfrineiriau i bob defnyddiwr awdurdodedig. Bydd hyn yn cyfyngu ar fynediad at y rhwydwaith heb awdurdod. • Hierarchaeth cyfrineiriau • Adnabyddiaeth Enw Defnyddiwr • Dilysiad Cyfrinair • Awdurdodaeth Pa ffeiliau ygallwch weld a beth sydd gennych yr hawl i wneud. • Cyfyngu mynediad corfforol at ffeiliaue.e. cardiau smart i reoli mynediad i ystafell. Ardaloedd diogel i gadw gweinyddwyr.
Atal difrod maleisus……Hacio (Parhad) • Sganiau biometregmegis olion llaw neu lais; sganiau retina • Muriau gwarchodamgylchedd arbennig er mwyn dal haciwr sy’n logio ymlaen dros gysylltau pell. Mae’n dilysu negeseuon a ddanfonir ar y rhwydwaith ac yn gwirio hawl y defnyddiwr i ddefnyddio’r rhwydwaith. • Gweinyddwyr dirprwyol • Mae’r ddyfais yma yn ceisio atal ymwthwyr rhag adnabod cyfeiriad Protocol y Rhyngrwyd (IP/ Internet Protocol) ar gyfer gweithfan defnyddiwr sydd ar y Rhyngrwyd.
Atal niwed maleisus……Hacio (parhad) • Gweithdrefnau galw-yn-ôl • Mae rhai cwmnïau yn defnyddio system deialu-yn-ôl. Mae defnyddiwr yn logio ymlaen i gyfrifiadur sydd, yn syth, yn datgysylltu’r lein ac yn deialu’r defnyddiwr yn ôl. Byddai hyn yn atal defnyddiwr rhag logio ymlaen gyda chyfrinair rhywun arall. • Amgryptio • Mae data sy’n cael ei drosglwyddo ar draws rhwydwaith yn cael ei amgryptio cyn ei ddanfon. Mae’n atal unrhyw un sy’n rhyng-gipio’r neges rhag ei deall. Rhaid dad-godio’r neges gan y gwir dderbynydd.
Lledu firws cyfrifiadurol • Mae’r rhain yn rhaglenni a gyflwynir i systemau cyfrifiadurol sy’n dinistrio neu newid ffeiliau wrth drosysgrifo data neu drwy gopïo eu hunain dro ar ôl tro nes bod y system gyfrifiadurol yn llawn ac yn methu parhau i weithio. • Ataliaeth • Peidiwch lawr-lwytho rhaglenni anhysbys oddi ar y Rhyngrwyd yn syth i’r ddisg galed. Defnyddiwch ffynonellau dibynadwy yn unig. • Diogelwch gyfryngau rhag ysgrifennu arnynt. • Peidiwch a chopïo meddalwedd anghyfreithlon • Defnyddiwch feddalwedd sganio firysau a rhaglen ddileu firysau. Sicrhewch fod hyn yn gyfoes gyda’r diffiniadau firysau diweddaraf – ar gael oddi ar y Rhyngrwyd. • Defnyddiwch weithfannau di-ddisg ar rwydweithiau.
Twyll cyfrifiadurol / trosedd coler-wen • Cofnodi data ffug wrth fwydodata • Allbwn ffug – mae’n bosib dileu allbwn er mwyn rhwystro dod o hyd i gofnodi neu brosesu data ffug. • Newid ffeiliau e.e. gweithiwr yn newid cyfradd cyflog neu’r nifer o oriau a weithiwyd. • Atal troseddau cyfrifiadurol ‘coler-wen’ • Monitro a chofnodi gweithredoedd pob rhaglen a defnyddiwr. Dylid gallu adnabod pob defnyddiwr a dylid gallu archwilio pob ffeil a chadw logiau trafodion. • Gweithdrefnau archwilio er mwyn dod o hyd i dwyll.
Ffactorau i’w hystyried wrth ddylunio polisïau diogelwch • Diogelwch corfforol • Atal cam-ddefnydd • Argaeledd system gyfrifiadurol arall a chyflenwad pŵer arall • Olion archwilio ar gyfer datgeliad • Ymchwilio parhaol i afreoleidd-dra • Mynediad i’r System – sicrhau gweithdrefnau ar gyfer cael at ddata, megis gweithdrefnau logio ymlaen, muriau gwarchod • Gweithdrefnau gweithredol • Cynllunio ar gyfer adferiad ar ôl trychineb ac wrth ddelio gyda bygythiadau oddi ar firysau • Gweinyddiaeth personél • Cod ymddygiad a chyfrifoldebau staff; hyfforddi staff. • Staff polisi, cynnal a chadw ar gael. • Gweithdrefnau disgyblaeth.
Gweithdrefnau Gweithredol • Gweithdrefnau disgyblaeth. • Sgrinio darpar-weithwyr. • Trefniadau ar gyfer dosbarthu gwybodaeth wedi’i diweddaru am firysau a gweithdrefnau sganio firysau. • Diffinio gweithdrefnau ar gyfer lawr-lwytho oddi ar y Rhyngrwyd, defnyddio disgiau hyblyg, gweithdrefnau copïo wrth-gefn. • Sicrhau hawliau diogelwch ar gyfer diweddaru tudalennau ar y we. • Trefnu rhaglen adfer o drychineb. • Trefnu prosesau archwilio (Olion archwilio/Audit trails) i ddod o hyd i gam-ddefnydd.
Tri chyfnod Cynllun Adfer Trychineb Ffactorau sy’n pennu ffaint all gwmni wario i ddatblygu rheolaeth, lleihau risg.
1. Beth i wneud o flaen llaw? • Gwneud ‘asesiad risg’ o’r peryglon posib • Adnabod peryglon posib • Tebygolrwydd o berygl yn digwydd • Goblygiadau hir-dymor a byr-dymor y perygl hwnnw • Pa mor barod yw’r cwmni i ymdopi gyda’r perygl hwnnw • Rhowch fesurau atal mewn lle • Sefydlwch system amddiffyniad corfforol (muriau gwarchod a.y.y.b.) • Sefydlwch hawliau diogelwch ar gyfer mynediad at ffeiliau a diweddaru tudalennau’r we • Sefydlwch raglen adfer trychineb • Sefydlwch weithdrefnau archwilio (Olion archwilio) i ddod o hyd i gamddefnydd • Hyfforddi staff mewn gweithdrefnau gweithredol • Sgrinio darpar-weithwyr • Trefniadau ar gyfer dosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf am firysau a phrosesau sganio firysau • Diffinio gweithdrefnau ar gyfer lawr-lwytho oddi ar y Rhyngrwyd, defnydd disgiau hyblyg, trefniadau copïo wrth-gefn personol • Diffinio cod ymddygiad staff ar gyfer defnyddio systemau cyfrifiadurol e.e. dim e-byst maleisus, dim defnydd anghyfreithlon a.y.y.b.
2. Beth i’w wneud yn ystod… • Beth ddylai ymateb staff fod pan mae’r trychineb yn digwydd? 3. Beth i’w wneud ar ôl… Gweithredu mesurau adferiad • Gellir ailosod caledwedd. • Gellir ailosod meddalwedd (neu ddadfygio gan yr adran raglennu). • Y gwir broblem yw data. Ni all unrhyw fusnes fforddio colli ei ddata. • Dylid gwneud copïau wrth-gefn cyson o’r holl ddata. Mae hyn yn golygu, pe collir y data, bydd yn rhaid i’r busnes fynd yn ôl i’r copi wrth-gefn diwethaf a pharhau o hynny. Gall gopïo wrth-gefn gymryd amser hir – maent yn aml yn cael eu harbed ar dâp dros nos. • Systemau cyfrifiadurol a chyfathrebiadol eraill: gellir trefnu’r rhain rhag ofn bod y rhwydwaith neu’r cyflenwad pŵer yn methu.