E N D
Syniadau codi arian/menter • Bydd nifer o ysgolion yn cynnal digwyddiadau codi arian. Maen nhw’n ddelfrydol i ddysgwyr brofi gweithgareddau ‘go iawn’ sy’n cwmpasu’r datganiadau yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). • Gall y deilliannau dysgu canlynol (mewn teip trwm) gael eu troi’n ddigwyddiad codi arian wedi’i gynllunio’n dda.
Ar Drywydd Dysgu yn y FfLlRh Os yw’n gymwys i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y Cynllunydd rheoli arian.
Deilliannau dysgu FfLlRh Rheoli arian
Syniadau Mawr Cymru Beth yw Syniadau Mawr Cymru? Syniadau Mawr Cymru yw ymgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes. Mae'r ymgyrch yn cael ei reoli gan y Tîm Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru. Mae'r sleidiau canlynol yn awgrymu sut y gallai'r ymgyrch ddatblygu entrepreneuriaeth gyda dysgwyr yn y sector cynradd ac uwchradd. I gael rhagor o fanylion ac adnoddau ewch i http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb
Mae’r sleidiau canlynol yn rhannu rhai syniadau codi arian a menter a gafodd eu treialu gan athrawon mewn ysgolion yng Nghymru.
Syniadau codi arian/menter • Mae'r pennaeth yn rhoi £10/£20/£50 i bob dosbarth yn y gwasanaeth. Mae pob dosbarth yn cynnal digwyddiad codi arian. Mewn gwasanaeth dilynol maen nhw'n dychwelyd y £10 ynghyd ag unrhyw elw y maen nhw wedi'i wneud. • 'Tyfu £1' – Mae pob plentyn yn cael £1 ac mae'n rhaid iddyn nhw gael hyd i ffyrdd o'i dyfu, e.e. gwneud a gwerthu eitemau, cynnig gwasanaeth, cronni eu harian i ddechrau busnes gyda dysgwyr eraill. • Mae'r dysgwyr yn cynnig am swm penodol o arian er mwyn dechrau menter arbennig, e.e. cynnig am ddigon o arian i hurio castell neidio neu brynu'r eitemau sydd eu hangen i redeg busnes golchi ceir. Ar ôl y digwyddiad, maen nhw'n dychwelyd yr arian ynghyd â'r elw. • Cystadleuaeth i weld pa grŵp/dosbarth all godi'r arian mwyaf. • Tyfu hadau – mae pob plentyn yn cael pecyn o hadau; allan nhw wneud arian drwy eu tyfu a gwerthu'r cynnyrch?
Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Cynnig gwasanaeth neu gynnal sioe/digwyddiad/cystadleuaeth • Golchi ceir. • Cystadleuaeth chwaraeon a chodi tâl ar ddysgwyr i gystadlu, e.e. tennis, tennis bwrdd, cic o'r smotyn, ras hwyl. • Gwneud gwaith tŷ gartref/yn yr ysgol. • Digwyddiadau noddedig. • Cynnal sioe neu sioe dalent. • Dawns te prynhawn. • Disgo. • Bar ewinedd. • Paentio wynebau. • Diwrnod dillad eich hunan – dysgwyr yn talu i wisgo eu dillad eu hunain. • Cwis. • Ffair/gemau'r ffair, e.e. taflu sbwng at y pennaeth, map trysor.
Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Syniadau gwneud/gwerthu • Gwerthu byrbrydau/smwthis/nwyddau diangen/eitemau Masnach Deg/cacennau/ac ati. • Siop ffrwythau'r ysgol – grwpiau o ddysgwyr yn cynllunio ac yn rhedeg y siop eu hunain am wythnos, e.e. dewis o ffrwythau, cebab ffrwythau, smwthis, salad ffrwythau. Pa grŵp sy'n gwneud yr elw mwyaf? • Arwerthiant/addewidion – cynigion ysgrifenedig ar gyfer eitemau sydd ar werth, y cynnig gorau yn ennill yr eitem. • Llenwi cwpan de/jar jam ag eitemau a'u gwerthu, e.e. blodau, melysion, pennau, goleuadau te. • Eisteddfod – gwerthu cynnyrch Cymreig • Eitemau wedi'u personoli – ffotograffau, tywelion te, mygiau, magnetau, cylch allweddi, calendrau a bagiau. • Cardiau pen-blwydd neu Nadolig, e.e. o waith llaw, cyhoeddedig, wedi'u personoli. • Un bêl-droed yw'r wobr a dylai'r dysgwyr benderfynu sut y gallan nhw wneud yr arian mwyaf ohono, e.e. cic o'r smotyn, raffl, hysbysebu, y tîm lleol yn arwyddo'r bêl a chynnal arwerthiant. • Tyfu pecyn o hadau a gwerthu'r cynnyrch.
Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon) Syniadau gwneud/gwerthu • Agor ‘siop dros dro’ yn gwerthu eitemau i’r cyhoedd. • Gwneud a gwerthu llyfrau, e.e. hoff ryseitiau athrawon, jôcs, cerddi, straeon. • CD neu DVD o gyngerdd/caneuon ysgol. • Oriel gelf ac arwerthiant. • Gemwaith. • Eitemau brecwast/bore goffi/te prynhawn/barbeciw. • Marchnad/arwerthiant cist car ar iard yr ysgol. • Modelau yn seiliedig ar brosiect Eden. • Hufenau a hylifau/eitemau pampro. • Gardd yr ysgol – tyfu a gwerthu cynnyrch. • Gwneud eitemau i’w gwerthu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, e.e. addurniadau Nadolig.
Syniadau ar gyfer defnyddio’r arian a godwyd • Defnyddio’r arian i ‘wella’r’ ysgol, defnyddio’r syniadau a awgrymwyd gan y dysgwyr, e.e. i brynu offer dosbarth/ysgol, gemau amser chwarae gwlyb, amser chwarae awyr agored/offer chwaraeon, adnoddau TGCh, eitemau ar gyfer gardd yr ysgol. • Taith dosbarth diwedd tymor/trît/parti/prom. • Rhoi'r arian i elusen, e.e. offer ar gyfer ysgol efeillio, pwmp dŵr. • Prynu darn o fforest law/enwi seren. • Rhannu’r elw – 50% at elusen, 50% i'r dosbarth/ysgol.
Cofnodi, cynllunio ac olrhain yr arian a wariwyd ac a gynilwyd • Syniadau: • Gosod swm targed i’r dysgwyr ei godi, e.e. £200 ar gyfer offer chwarae awyr agored. • Gall dysgwyr gynllunio sut i godi’r arian. • Cofnodi’r arian a gynilwyd/wariwyd neu elw a cholled, e.e. mae’r dysgwyr yn cynllunio eu ffyrdd eu hunain o gofnodi, defnyddio mantolenni, taenlenni. • Gofyn y cwestiwn i’r dysgwyr neu arddangos y cwestiwn yn y neuadd ‘Faint yn rhagor sy’n rhaid i ni gynilo i gyrraedd y targed?’.
Holiadur • Syniadau: • Gallech chi ofyn i’r dysgwyr gynllunio a chwblhau holiadur cyn y digwyddiad i gael yr wybodaeth ganlynol. • Beth hoffech chi ei weld/ei wneud yn y digwyddiad? • Beth fyddech chi’n dewis gwario eich arian arno yn y digwyddiad? • Faint fyddech chi’n barod i’w dalu?
Cynghorion di-ffael ar gyfer digwyddiadau llwyddiannus • Hysbysebu'n dda. • Cymryd archebion ymlaen llaw os oes modd i leihau gwastraff. • Annog dysgwyr i gymharu prisiau ar gyfer defnyddiau. Maen nhw'n sylweddoli'n fuan drwy ddewis y pris gorau gallan nhw wneud yr elw mwyaf posibl. • Rhoi cyfle i ddysgwyr gael diwrnod heb wisg ysgol i ddod ag eitemau i'w gwerthu yn y ffair. • Rhannu dysgwyr Blwyddyn 5/6 yn grwpiau bach i fod yn 'gyfrifwyr/rheolwyr' ar gyfer y dosbarthiadau eraill yn yr ysgol. Mae hyn yn rhoi profiad go iawn iddyn nhw o weithio ar lefel briodol ac mae hefyd yn helpu athrawon dosbarth dysgwyr iau. • Ymarfer stondin/digwyddiad cyn y diwrnod ei hun drwy chwarae rôl.
Chwarae rôl • Gall roi cynnig ar stondin/digwyddiad drwy chwarae rôl helpu’r dysgwyr i sylweddoli a datrys heriau posibl. Dylai hyn helpu’r digwyddiad i redeg yn ddiffwdan. • Enghreifftiau: • Angen prisio a rhoi newid, e.e. os yw’r prisiau yn 25c, bydd angen llawer o 5c i roi newid; os yw’r eitemau yn 99c, bydd angen llawer o 1c; neu benderfynu newid y pris i £1. • Ydy’r prisiau yn hawdd i’r cwsmeriaid eu darllen? • Ydych chi am hysbysebu cynigion arbennig? • Oes angen system giwio? • Faint o werthwyr/tiliau sydd eu hangen? Ble ddylech chi roi’r tiliau? • Beth yw pris 2, 3, 4, 5 eitem? Fyddai rhestr o’r rhain yn ddefnyddiol (e.e. gwerthu calendrau am £1.25 yr un)? • Oes angen bagiau cludo arnoch chi? • Fyddai archebu eitemau ymlaen llaw yn helpu (e.e. cebab ffrwythau, eitemau wedi’u personoli)?
Cysylltiadau llwyddiannus • Mae ysgolion wedi cynnal digwyddiadau codi arian llwyddiannus mewn cydweithrediad ag: • Ysgolion Iach (bwyd iach/siop fwyd ffrwythau/digwyddiadau chwaraeon) • Masnach Deg • codi arian ar gyfer ysgol efeillio/plentyn wedi’i fabwysiadu mewn gwlad arall • grŵp menter eu hysgol uwchradd leol • busnesau lleol, e.e. siopau lleol ar gyfer nwyddau, argraffwyr/cyhoeddwyr ar gyfer hysbysebu neu argraffu cardiau/calendrau • cystadlaethau/mentrau menter ieuenctid • diwrnod cydweithredu Ewropeaidd.
Gwefannau ac adnoddau • Syniadau Mawr CymruYmgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuriaeth a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes.http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb • Enterprise troopershttp://ycriwmentrus.com/home-2/ • Adnoddau Dynamo http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/yes/content/dynamo/curriculum_materials/dynamo_1.aspx?lang=cy-gb • pfeg Amryw o adnoddau menter ac astudiaethau achos yn addas ar gyfer ymarferwyr cynradd ac uwchradd.www.pfeg.orgGweler ‘Enterprise’, Learning about money in the primary classroom. • Trade Your Way www.bbc.co.uk/schools/teachers/tradeyourway • Values, Money and Me – Entrepreneur Challengewww.valuesmoneyandme.co.uk/calculators/challenge.html