100 likes | 240 Views
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Criw Daear. “Roedd Criw Daear yr RAF, neu’r ’erks’ fel roedden nhw’n cael eu galw, ar y llinell flaen wrth i Frwydr Prydain rymuso”. David Oliver, Rheoli Awyrennau Ymladd 1939-45. Amddiffyn y genedl.
E N D
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Criw Daear “Roedd Criw Daear yr RAF, neu’r ’erks’ fel roedden nhw’n cael eu galw, ar y llinell flaen wrth i Frwydr Prydain rymuso”. David Oliver, Rheoli Awyrennau Ymladd 1939-45 Amddiffyn y genedl
Ydych chi’n gallu gweld beth sy’n digwydd yn yr olygfa hon o Frwydr Prydain? Rhan o Gofeb Llundain i Frwydr Prydain gan Paul Day. Pwy ydy’r bobl hyn?
Roeddgwaith y criwdaearynhanfodolostrechu’rLufftwaffeymMrwydrPrydainoeddbwriadyr RAF. Gweithiai’rcriwdaearynddiflinoibaratoi’rawyrennaurhwngpob ‘sgrambl’. Rhan o Gofeb Llundain I Frwydr Prydain gan Paul Day. Ynamliawnroeddangenpedwararfogwr (fel y rhaiuchod) igaelawyrenynbarodisgrambloeto, morfuan â phosibl. Ffynonellau ysgrifenedig Rhagor o ddelweddau
Pa mor bwysig ydych chi’n meddwl oedd gwaith aelod o’r criw daear? “Ar ôl i’r awyrennau lanio, roedd disgwyl y bydden nhw wedi cael eu hail-lenwi â thanwydd, wedi’u hailarfogi a’r tyllau gynnau wedi’u tapio, eu peiriannau wedi cael eu gwirio, gan gynnwys gwirio’r olew a’r tanciau oerydd glycol, newid y silindrau ocsigen a phrofi’r trawsyriad radio - mewn 10 munud!” Mewn cyflwr o fod wedi paratoi byddai aelod o’r criw daear - y ffitiwr peiriannau - yn tanio’r peiriant i’w gynhesu. Ar yr un pryd byddai aelod arall o’r ‘tîm’ - y rigiwr ffrâm awyr - yn helpu’r peilot i wisgo’i barasiwt a’i strapio yn ei sedd pe byddai’r alwad i sgramblo’n dod. David Oliver, Fighter Command 1939-45, (Harper Collins 2000) Pam ydych chi’n meddwl fod David Oliver wedi dewis gosod y gair ‘tîm’ mewn dyfynodau ‘sengl’? Yn ôl i Sleid 10 Darparwyd y Llungerdyn Boulton-Paul Defiant gan M. Williams
Sut mae’r wybodaeth isod yn atgyfnerthu’r casgliad y daethoch iddo wrth ateb y cwestiwn ar y sleid flaenorol? “Gallai peiriant glân sy’n rhedeg yn llyfn, canopi glân wedi’i iro’n dda a gynnau sydd ddim yn tagu fod yn gymorth mawr i’r peilot i saethu’r gelyn i lawr. Ar ben hynny, gallai achub ei fywyd. Ffurfiwyd sawl cyfeillgarwch hir dymor rhwng y criwiau daear a’r criwiau awyrennau yn ffwrn misoedd cynhyrfus Brwydr Prydain.” David Oliver, Fighter Command 1939-45, (Harper Collins 2000) Dyletswyddau oedd yn cael eu gwneud gan y Criw Daear. Darparwyd y Llungerdyn Boulton-Paul Defiant gan M. Williams
Gan ddefnyddio’r ffynonellau i gyd - pa mor anodd oedd bywyd i bersonél y criw awyr yn ystod Brwydr Prydain? “Roedd yn rhaid defnyddio batri allanol wedi’i osod ar gronadur troli i gychwyn peiriannau’r awyrennau Spitfire, Hurricane a Defiant cynharaf, ac roedd yn rhaid i’r criw daear ei dynnu a’i wthio i’w le… Roedd yn rhaid i ‘erk’ danio motor yr awyrennau Gladiator a Blenheim â handlen. Pe bai’r motor yn tanio’n ôl roedd y grym yn ddigon i dorri garddwrn.” “Byddai’r criwiau awyr yn sefydlu gweithdai mewn caeau yd agored…ac yn cysgu lle bynnag a phryd bynnag y bydden nhw’n gallu tra roedd brwydrau’n rhuo… Roedd llwch yn treiddio i beiriannau, yr hydroleg a pheirianwaith y gynnau. (Yn aml) byddai’r meysydd awyr yn troi’n gorsydd. Byddai rhwyllai gwifrog y meysydd awyr yn plygu am i fyny - o ganlyniad i ddefnydd cyson – gan greu gwely o nodwyddau a fyddai’n tyllu teiars yr awyrennau. Yn aml byddai canlyniad hynny’n un angheuol.” David Oliver, Fighter Command 1939-45, (Harper Collins 2000) Yn ôl i Sleid 10 Darparwyd y Llungerdyn Boulton-Paul Defiant gan M. Williams
Beth sydd gan yr aelod hwn o’r Criw Daear o amgylch ei wddf? Rhan o Gofeb Llundain i Frwydr Prydain gan Paul Day.
Yn ystod Brwydr Prydain roedd yn rhaid i’r arfogwyr ailarfogi wyth gwn peiriant Browning .303 . Rhan o Gofeb Llundain i Frwydr Prydain gan Paul Day. Ar yr awyren Hurricane dim ond dau banel oedd dros gilfach y gynnau, ac i’w hagor roedd rhaid dadwneud 32 o fotymau troi. Roedd gan y Spitfire 22 o banelau a 150 botwm troi. Tra byddai’r arfogwyr wrth eu gwaith byddai aelod arall o’r tîm daear, neu ‘erk’, yn dechrau llenwi tanciau tanwydd yr awyren. Darparwyd y delweddau gan GymdeithasHanesyddol Brwydr Prydain
Ydy’r rhan hwn o gerflun Paul Day yn cyfleu i chi sawl aelod o’r Criw Daear oedd eu hangen i gael awyren ymladd yn yr awyr ac yn barod i frwydro? Rhan o Gofeb Llundain i Frwydr Prydain gan Paul Day.
Mae blwch wedi’i osod ar rai o’r dynion yn y ddelwedd isod. Beth ydych chi’n meddwl maen nhw’n ei wneud? Rhan o Gofeb Llundain i Frwydr Prydain gan Paul Day.