390 likes | 525 Views
Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio. Etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r refferendwm ar y system bleidleisio i etholiadau Senedd y DU – 5 Mai 2011. Cyflwyniad . Swyddog Cyfrif Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol . Amcanion y sesiwn hyfforddi.
E N D
Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio Etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r refferendwm ar y system bleidleisio i etholiadau Senedd y DU – 5 Mai 2011
Cyflwyniad Swyddog Cyfrif Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol
Amcanion y sesiwnhyfforddi • Mae eich rôl yn allweddol – chi yw wyneb gwasanaeth cwsmeriaid y refferendwm. • Yn y sesiwn hwn byddwn yn: • amlinellu'r hyn rydyn ni'n disgwyl i chi ei wneud ar y diwrnod pleidleisio • trafod y gweithdrefnau pleidleisio • meddwl am faterion iechyd a diogelwch • amlygu nifer o drefniadau gweinyddol
Pleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Mae etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal trwy ddefnyddio’r System Aelod Ychwanegol (AMS). • Mae dau bapur pleidleisio, un i'r etholiad etholaeth ac un i'r etholiad rhanbarth • Bydd y pleidleisiwr yn bwrw eu pleidlais trwy osod croes sengl (X) yn erbyn yr ymgeisydd neu blaid o’u dewis ar bob un o’r ddau bapur pleidleisio ar wahân
Trosolwg o’r refferendwm • Mae refferendwm yn bleidlais uniongyrchol y gofynnir i'r etholwyr naill ai dderbyn neu wrthod cynnig neilltuol ynddi. • Ar 5 Mai bydd refferendwm ar y system bleidleisio i Etholiadau Seneddol y DU • Mae gan bleidleiswyr bleidlais a dylent nodi croes (X) yn naill ai y blwch ‘ie’ neu’r blwch ‘na’ ar y papur pleidleisio.
Mae'n hanfodol eich bod yn … ymddwyn yn ddiduedd drwy'r amser cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan y Swyddog Cyfrif sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais
Y Swyddog Llywyddu –rheolaeth yr orsaf bleidleisio • Cydgysylltu gyda deilydd allwedd yr adeilad • Trefnu gosodiad yr orsaf bleidleisio • Cyfarwyddo a goruchwylio gwaith y Clercod Pleidleisio • Cyfrif am yr holl bapurau pleidleisio, blychau pleidleisio a’r gwaith papur
Y Clerc Pleidleisio – dyletswyddau cyffredinol • Cynorthwyo gyda gosodiad yr orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y pleidleisio • Bod yn foesgar a phroffesiynol wrth ddelio â’r pleidleiswyr • Gwirio fod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn y refferendwm ac yn yr orsaf bleidleisio honno • Deall y broses o roi papurau pleidleisio
Dynesu aty diwrnod pleidleisio • Tasgau hanfodol • Ymweld â'r man pleidleisio a gwirio trefniadau mynediad • Gwirio cynnwys y blychau pleidleisio cyn gynted â phosibl ar ôl eu casglu • Cysylltu ag aelodau eraill y tîm • Cod gwisg - sicrhau bod dillad yn adlewyrchu proffesiynoldeb a’u bod yn ddiduedd, ond eu bod hefyd yn gysurus
Archwilwyr yr orsaf bleidleisio • Pwynt cyswllt • Cyflenwadau o ddeunyddiau ysgrifennu ac offer • Gyfrifol am • Gwirio cynllun gorsafoedd • Gwirio bod pethau'n rhedeg yn llyfn • Bod yn ymwybodol o unrhyw giwiau a delio â nhw • Casglu unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd • Dosbarthu taliadau (os yn briodol) • Rhifau cysylltu[………………..]
Risgiau • Methu cysylltu â deilydd yr allwedd • Methu cael mynediad i'r orsaf bleidleisio • Staff ddim yn presenoli eu hunain neu'n cyrraedd yn hwyr • Problemau sy'n effeithio ar arddangos hysbysiadau • Cofrestrau anghywir yn cael eu dyrannu i'r orsaf • Y rhifau papurau pleidleisio ddim yn cyfateb i’r rhai a argraffwyd ymlaen llaw ar y CNL. • Papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi'u rhoi'n anghywir • Ciwiau'n cynyddu'n agos at derfyn y bleidlais
Yr orsaf bleidleisio Trefnu, gosodiad, a phwy gaiff ddod i mewn i’r orsaf bleidleisio
Trefnu'rorsaf bleidleisio • Cynllun/rhybuddion (gweler y rhestr wirio yn Atodiad 11 i Lawlyfr yr Orsaf bleidleisio) • gorfod gweithio’n bennaf i'r pleidleisiwr • llwybr cerdded y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn • hygyrch i'r holl bleidleiswyr • Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio • hygyrch a diogel • Trefnwch bob set o bapurau pleidleisio mewn trefn rifiadol • Rhifwyr, ymgyrchwyr ac asiantiaid • pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio? • Selio'r blwch (blychau)
Pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio? • pleidleiswyr • swyddog Cyfrif a staff • ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad • asiantiaid refferendwm • asiantiaid pleidleisio • swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd • cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol • arsylwyr achrededig • pobl ifainc o dan 18 yn dod gyda phleidleiswyr • cymdeithion pleidleiswyr gydag anableddau
Gofal cwsmeriaid • Dangoswch ddiddordeb personol • Byddwch yn gynorthwyol a hawdd mynd atoch • Gwrandwch arnynt a dangos empathi â nhw • Caniatewch iddynt gyfleu eu pwynt cyn ymateb • Peidiwch â dweud ‘Na’, dywedwch wrthynt beth y gallwch ei wneud iddynt a beth y cânt ei wneud • Ond rhaid dilyn rheolau’r etholiad a’r refferendwm bob amser, waeth pa mor daer, gofidus neu flin ydynt • Os mewn amheuaeth, cysylltwch â’r swyddfa etholiadau
Gofal cwsmeriaid (parhad) • Sicrhewch fod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb : • rhaid i’r gosodiad weithio i'r holl bleidleiswyr, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn • dylai deunyddiau papur a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn hawdd eu gweld • mae rhaid ichi fod yn gallu darparu gwybodaeth i etholwyr anabl ar opsiynau ar gyfer pleidleisio â chymorth neu heb gymorth
Templed pleidleisio cyffyrddol • Mae angen i’r templed cyffyrddol fod yn weladwy a dylech bod yn hyderus wrth ei ddefnyddio • Sut i ddefnyddio
Pwy sy'n gallu a ddim yn gallu pleidleisio? • Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr(au) rhif cyfatebol
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru? • Etholwyr heb lythrennau na ddyddiadau o flaen eu henw • Etholwyr sy'n 18 neu fwy ar ddiwrnod yr etholiad • Etholwyr gyda ‘G’ cyn eu henw • Etholwyr gyda ‘K’ cyn eu henw • Etholwyr gydag ‘L’ cyn eu henw • Etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw sydd ag 'N' yn lle enw
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn y refferendwm? Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau cyn eu henw Etholwyr gyda chofnod dienw sydd heb lythyren wrth eu cofnod heblaw am y llythyren ‘N’ Etholwyr sy’n 18 oed neu fwy Etholwyr gydag ‘E’ cyn eu henw Etholwyr gydag ‘F’ cyn eu henw Etholwyr gydag ‘L’ cyn eu henw
Anfon y papurau pleidleisio • Nodi'r gofrestr a'r CNL • Gwnewch i’r etholwr gadarnhau eu henw • Nodwch rhif etholwr yr etholwr yn y gofrestr • Nodwch rhif etholwr yr etholwr yn y Rhestr(au) Rhif Cyfatebol (CNL(s)) • PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y papur pleidleisio! • Papurau pleidleisio • Agorwch yn llawn fel bod yr holl bapur yn weladwy. • Marc swyddogol • Rhif y papur pleidleisio a Marc Dynodi unigryw (UIM)
Marcio'r gofrestr Cliciwchiddychwelyd at y sleid
Enghraifft o Restr Rhif Cyfatebol (CNL) Cliciwchiddychwelyd at y sleid BC 27/1
Marcio'r papur pleidleisio i etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol: pleidlais etholaeth i ymgeisydd a phleidlais ranbarthol o restr plaid wleidyddol (neu i ymgeisydd rhanbarthol sy’n sefyll fel unigolyn). • Mae dau bapur pleidleisio: un i'r etholiad etholaeth ac un i'r etholiad rhanbarth. • Yn yr etholiad etholaeth, dylai pleidleiswyr roi croes yn y blwch a ddarperir ar ochr dde enw’r ymgeisydd y dymunant bleidleisio iddo. • Yn yr etholiad rhanbarth, dylai pleidleiswyr roi croes yn y blwch a ddarperir ar ochr dde enw’r blaid wleidyddol y dymunant bleidleisio iddi, neu i ymgeisydd rhanbarthol, os oes un.
Marcio'r papur pleidleisio i’r refferendwm • Efallai bydd angen egluro'r broses bleidleisio i rai etholwyr: • Mae gan bleidleiswyr un bleidlais, a dylent roi croes (X) yn naill ai’r blwch ‘ie’ neu ‘na’ • Os ydynt yn pleidleisio i fwy nag un dewis, ni fydd eu papur pleidleisio yn cael ei gyfrif
Beth sy'n digwydd os…? • roddir tystysgrif gyflogaeth ichi? • yw pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio • yw pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond mae'r pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy • yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r gofrestr yn dangos bod y person wedi pleidleisio eisoes • yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r gofrestr yn dangos bod y person yn bleidleisiwr post • yw person yn cyrraedd gan ddymuno pleidleisio fel dirprwy brys • yw person yn credu y dylent fod ar y gofrestr ond nid ydynt wedi’u rhestru • oes cynnwrf yn yr orsaf bleidleisio
Y cwestiynau rhagnodedig • Mae rhaid gofyn y cwestiynau rhagnodedig: • pan fyddwch chi'n amau cambersonadu • pan fydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan oedran • pan fydd ymgeisydd, asiant etholiad, asiant refferendwm neu asiant pleidleisio'n gofyn i hynny gael ei wneud • bob amser cyn anfon papur pleidleisio a gyflwynwyd
Pleidleisiau post • Gall pleidleiswyr roi eu pecynnau pleidleisiau post i mewn i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth (gwiriwch fod pecyn i’r etholaeth cyn ei dderbyn) • Rhaid selio pecynnau pleidlais post a ddychwelwyd a’u labelu fel y cyfarwyddwyd • [rhowch i mewn y weithdrefn ar gyfer casglu pecynnau pleidlais post gan y Swyddog Cyfrif yn ystod y dydd]
Pleidleisiau post • Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin i farcwyr 'A' yn yr orsaf bleidleisio: • yn uniongyrchol i'r Swyddog Cyfrif i'w newid (cyn 5 pm) • gweithdrefn papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi 5 pm • eithriad: ble mae etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Yn yr achos hwnnw, byddent yn gymwys am bapur pleidleisio a gyflwynwyd ar unrhyw adeg.
Cau’r Pleidleisio • Y gweithdrefnau i’w dilyn
Cau’r pleidleisio • Rhaid cau am 10 yr hwyr • Mae rhaid i unrhyw berson yr anfonwyd papur(au) pleidleisio iddo erbyn 10pm gael pleidleisio • Fodd bynnag ni ellir anfon wedi 10pm, hyd yn oed os oedd yr etholwr mewn ciw am 10pm • Seliwch y blwch/blychau pleidleisio. • Mae hawl gan yr ymgeiswyr ac asiantiaid i osod seliau gan fod y pleidleisio yn awr wedi cau.
Wedi i'r pleidleisio gau • Mae'n gwbl hanfodol y cyflawnir y cyfrif papurau pleidleisio'n gywir • Mae rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch hon gyda'r blwch/blychau pleidleisio • Sicrhewch y gosodir yr holl ddogfenni yn y pecynnau cywir wedi'u llofnodi fel bo'n briodol • Dylai Clercod Pleidleisio gynorthwyo wrth dacluso'r orsaf er mwyn caniatáu i'r Swyddog Cyfrif wneud y tasgau pwysig hyn.
Iechyd adiogelwch • peidiwch byth â pheryglu diogelwch unrhyw berson y tu mewn i'r orsaf bleidleisio • byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posib i ddiogelwch • archwiliwch yr adeilad yn rheolaidd • os canfyddir peryglon - dewch o hyd i ddatrysiad • os oes damwain yn digwydd - dilynwch weithdrefnau • byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm
Gwybodaeth ychwanegol • Cysylltiadau tîm etholiad • Gwefan y Comisiwn Etholiadol • www.electoralcommission.org.uk • www.aboutmyvote.co.uk • Taflenni adborth