420 likes | 554 Views
Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio. Etholiad Senedd Ewrop, 22 Mai 2014. Cyflwyniad. Swyddog Canlyniadau Lleol Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad
E N D
Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio Etholiad Senedd Ewrop, 22 Mai 2014
Cyflwyniad Swyddog Canlyniadau Lleol Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol
Amcanion y sesiwn hyfforddi • Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad • Byddwn yn sôn am y pethau hyn yn y sesiwn hon: • esbonio'n fras beth y byddwn yn disgwyl ichi ei wneud ar y diwrnod pleidleisio • trafod y gweithdrefnau pleidleisio • meddwl am faterion iechyd a diogelwch • tynnu sylw at nifer o drefniadau gweinyddol
Prif amcanion ar gyfer yr etholiad • bod pob pleidleisiwr yn cael profiad da, gyda unrhyw berson sydd â hawl pleidleisio yn gallu gwneud • bod y bleidlais yn cael eu darparu’n broffesiynol • ein bod ni’n cynhyrchu canlyniadau cywir y mae rhanddeiliaid yn hyderus ynddynt • bod y broses yn dryloyw • bod y bleidlais yn cael ei weinyddu’r gyson
Mae'n hollbwysig ichi... fod yn ddiduedd bob amser cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau lleol sicrhau bod y bleidlais yn gyfrinachol ac yn ddiogel
Y Swyddog Llywyddu - rheoli'r orsaf bleidleisio • Cysylltu â'r sawl sy'n cadw allwedd yr adeilad • Trefnu i osod pethau yr orsaf bleidleisio • Rhoi cyfarwyddyd i Glercod yr Etholiad a goruchwylio'u gwaith • Cadw cyfrif o'r holl bapurau pleidleisio, y blychau pleidleisio a'r gwaith papur
Y Clerc Pleidleisio - dyletswyddau cyffredinol • Cynorthwyo gyda gosod yr orsaf bleidleisio a pharatoi i agor y bleidlais • Bod yn gwrtais a phroffesiynol wrth ddelio gyda phleidleiswyr • Sicrhau bod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio honno • Deall y broses ar gyfer rhoi papurau pleidleisio
Cyfrif i lawr at y diwrnod pleidleisio • Tasgau hanfodol • Ymweld â man pleidleisio ac edrych ar drefniadau cysylltu a hygyrchedd • Sicrhau trefniadau ar gfyer casglu blychau pleidleisio a gwirio cynnwys cyn gynted â phosibl • Cysylltu ag aelodau eraill y tîm • Gwisg – sicrhau fod dillad yn adlewyrchu proffesiynoldeb a didwylledd ond yn gyfforddus ac yn addas ar gyfer y tywydd
Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio • Pwynt cyswllt • Cyflenwi papurau ac offer • Rhifau cyswllt [ ........................ ]
Risgiau • Methu cysylltu â cheidwad yr allwedd • Methu mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio • Staff heb gyrraedd neu'n hwyr • Problemau o ran arddangos hysbysiadau • Cofrestri anghywir wedi'u rhoi i'r orsaf • Rhifau'r papurau pleidleisio ddim yn cyfateb â'r rheini sydd wedi'u rhagargraffu ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • Dilyn y drefn anghywir wrth gyflwyno papurau pleidleisio a gyflwynwyd dan amgylchiadau arbennig • Ciwiau'n hel drwy gydol y diwrnod pleidleisio • Tywydd gwael, llifogydd
Yr orsaf bleidleisio Gosod, gosodiad a phwy all dod mewn i’r orsaf bleidleisio
Gosod pethau ynyr orsaf bleidleisio • Lleoli pethau /hysbysiadau (gweler y rhestr ar gyfer gosod pethau yn Atodiad 12 o'r Llawlyfr gorsafoedd pleidleisio) • rhaid i'r peth weithio i'r pleidleisiwr • dilynwch y llwybr y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn • gwnewch yn siŵr bod pob hysbysiad yn ei le a bod pensiliau'n barod ac wedi'u minio • trefniadau priodol i sicrhau bod y lle'n hygyrch i bleidleiswyr • ystyried anghenion defnyddwyr cadair olwyn (e.e. drysau, lle i droi, pleidleisio'n gyfrinachol) • darparu seddi i etholwyr y gall fod angen iddynt orffwys • pleidleisio’n gyfrinachol (dim ffenestri yn edrych dros y bythau pleidleisio) • Paratoi'r papurau • trefnu'r papurau pleidleisio yn nhrefn eu rhifau • paratoi'r gofrestr a'r rhestr rhifau cyfatebol • cadw papurau pleidleisio a gyflwynwyd dan amgylchiadau arbennig mewn paced.
Gosod pethau yn yr orsaf bleidleisio (parhad) • Asiantiaid pleidleisio, rhifwyr ac eraill • ystyriwch ymhle y caiff asiantiaid pleidleisio, rhifwyr, cefnogwyr/ymgyrchwyr eraill fod/ lle na chân nhw fod • Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio • hwylus a diogel • Selio'r blwch/blychau • dangos bod y blwch yn wag • selio yn unol â'r cyfarwyddiadau ychydig cyn 7am • peidiwch â gadael i ymgeiswyr /asiantiaid ychwanegu sêl ar yr adeg hon
Pwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio? • Pleidleiswyr • Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol’r Ardal, y Swyddog Canlyniadau lleol a’u staff • Ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad • Asiantiaid pleidleisio • Swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol sydd ar ddyletswydd yn yr orsaf bleidleisio • Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol • Arsyllwyr achrededig • Pobl dan 18 oed sydd gyda phleidleiswyr • Cymdeithion pleidleiswyr sydd ag anabledd
Gofalu am gwsmeriaid • Dangoswch ddiddordeb personol • Byddwch yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar • Gwrandewch arnyn nhw a chydymdeimlo • Gadewch iddyn nhw wneud eu pwynt cyn ymateb • Peidiwch â dweud 'Na', dywedwch wrthyn nhw beth y gallwch ei wneud drostyn nhw a beth y gallan nhw ei wneud • Ond rhaid dilyn rheolau'r etholiad yn ddieithriad, ni waeth faint maen nhw'n mynnu, na pha mor anhapus neu ddig y byddan nhw • Os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â'r swyddfa etholiadau
Gofalu am gwsmeriaid (parhad) • Gwnewch yn siŵr bod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb: • rhaid i'r ffordd mae pethau wedi'u gosod fod yn hwylus i bob pleidleisiwr, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn • dylai papurau a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn gwbl amlwg • rhaid ichi allu darparu gwybodaeth ar gyfer etholwyr anabl ynglŷn â'r opsiynau ar gyfer pleidleisio
Templed cyffwrdd ar gyfer pleidleisio • Mae angen i'r templed cyffwrdd fod yn amlwg a dylech deimlo'n hyderus i'w ddefnyddio • Sut mae ei ddefnyddio - gwnewch yn siŵr bod y templed yn sownd yn y papur pleidleisio a bod y pleidleisiwr yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio. Dylai'r pleidleisiwr: - godi'r ffenestr maen nhw'n ei dewis yn y golofn dewis cyntaf - marcio'u dewis o ymgeisydd neu blaid â chroes (X) - cau'r ffenestr - ailadrodd ar gyfer eu hail ddewis yn yr ail golofn - gwahanu'r templed oddi wrth y papur pleidleisio - plygu'r papur pleidleisio a'i roi yn y blwch pleidleisio - dychwelyd y templed i'r Swyddog Llywyddu
Pwy gaiff a phwy na chaiff bleidleisio? Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau rhifau cyfatebol
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop? Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau o flaen eu henw Etholwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad Etholwyr â ‘F' o flaen eu henw Etholwyr â 'K' o flaen eu henw Etholwyr ag 'L' o flaen eu henw Etholwyr ag ‘E' o flaen eu henw Etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw – bydd ganddynt 'N' yn lle enw
Pwy sydd ddim yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop? Etholwyr sydd â dyddiad geni ar y gofrestr sy’n dangos nad ydynt yn 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad Etholwyr â ‘G' o flaen eu henw Etholwyr â ‘A' o flaen eu henw
Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl • Marcio'r gofrestr a'r Rhestr Rhifau Cyfatebol • Gofynnwch i'r etholwr gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad • Marciwch rif etholwr yr etholwr yn y gofrestr • Galwch rif a rhif etholwr yr etholwr • Rhowch rif yr etholwr ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y papur pleidleisio!
Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl • Papurau pleidleisio • Agorwch y papur yn llawn fel bod y papur i gyd i'w weld • Marc swyddogol, rhif papur pleidleisio a Marc Dynodi Unigryw (UIM)
Eithriadau i'r rheol • Etholwyr dienw • Rhaid iddyn nhw ddangos cerdyn pleidleisio • Wedi'u marcio ag 'N' ar y gofrestr • Rhaid peidio â galw'u henw a'u cyfeiriad • Marciwch y gofrestr â’u rhif pleidleisio fel arfer • Etholwyr eraill - Ar ddiwedd y gofrestr (diwedd rhaniad yr orsaf
Enghraifft o gefn y papur pleidleisio Rhifpapurpleidleisio Nod AdnabodUnigryw dyddiad
Marcio'r papur pleidleisio • Efallai bydd rhai etholwyr angen i chi esbnoio’r broses bleidleisio iddyn nhw • Mae gan bleidleiswyr un bleidlais. Gallant bleidleisio dros blaid (a’i rheestr o ymgeiswyr) neu am ymgeisydd unigol a dylent osod croes yn y blwch gwag wrth ymyl y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol y maent am belidleisio drostynt
Beth os...? • bydd rhywun yn rhoi tystysgrif cyflogaeth ichi • bydd pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio • bydd pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond bod y pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw eisoes wedi pleidleisio • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw'n pleidleisio drwy'r post • bydd rhywun yn cyrraedd sy'n dymuno pleidleisio fel dirprwy brys • bydd rhywun yn credu y dylen nhw fod ar y gofrestr ond nad ydyn nhw wedi'u rhestru • bydd helynt yn codi yn yr orsaf bleidleisio
Y cwestiynau penodedig • Rhaid gofyn y cwestiynau penodedig: • os bydd ymgeisydd, asiant etholiad neu asiant pleidleisio'n gofyn amdanyn nhw • cyn cyflwyno papur pleidleisio dan amgylchiadau arbennig • Dylid gofyn y cwestiynau penodedig: • os byddwch chi'n amau bod rhywun yn esgus bod yn rhywun arall • os bydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan oed • pan fydd etholwr yn dweud bod eu henw'n wahanol i'r hyn sydd ar y gofrestr etholwyr • Ni chaniateir holi na chwestiynu etholwyr mewn unrhyw fodd arall
Pleidleisiau Post • caiff pleidleiswyr gyflwyno'u pleidleisiau post mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio (ardal cyngor lleol) • rhaid storio, selio a labelu pecynnau pleidleisiau post yn unol â'r cyfarwyddiadau • cesglir pleidleisiau post yn ystod y dydd, a dychwelyd y gweddill gyda'r blwch pleidleisio pan ddaw'r cyfnod pleidleisio i ben
Pleidleisiau Post • Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin yn yr orsaf bleidleisio i bobl sydd wedi'u marcio ag 'A': • cyfeiriwch nhw at y Swyddog Canlyniadau lleol i gael papur arall (cyn 5yh) • y weithdrefn ar gyfer cyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig ar ôl 5yh • eithriad: lle bydd etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Os felly, bydd yn gymwys i gael papur pleidleisio wedi'i gyflwyno dan amgylchiadau arbennig unrhyw bryd. Serch hynny, dylid annog yr etholwyr hyn i wneud cais am bapur arall yn y swyddfa etholiadau os nad yw'n 5yh eto
Cau'r Bleidlais Y weithdrefn i’w diyn
Rheoli’r ciw • Ar unrhyw adeg yn ystod y dydd – ffoniwch y swyddfa etholiadol • Ychydig cyn 10pm • gwnewch yn siŵr bod y rheiny sy’n aros yn gallu bwrw’u pleidlais • gwnewch yn siŵr fod unrhyw un sy’n aros i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio gywir ar gyfer eu cyfeiriad
Rheoli’r ciw (2) • Am 10pm • dewch â’r holl etholwyr sy’n aros i mewn i’r ystafell/adeilad a chau’r drws, NEU • os nad yw’r ystafell/adeilad yn ddigon mawr, dylai aelod o’r tîm sefyll ar ddiwedd y ciw i nodi diwedd y ciw • parhewch i roi papurau pleidleisio hyd nes bod pawb oedd yn y ciw erbyn 10pm wedi pleidleisio • NI DDYLID rhoi papur pleidleisio i unrhyw un nad oedd yn y ciw am 10pm
Cau'r Bleidlais Unwaith i’r pleidleisiwr olaf bleidleisio, seliwch y blwch pleidleisio Mae gan ymgeiswyr/asiantiaid hefyd hawl i osod sêl ar y blwch pleidleisio ar yr adeg hon
Ar ôl i'r bleidlais gau Hollol hanfodol bod y cyfrif papurau pleidleisio yn cael ei gwblhau'n gywir Rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch y rhain gyda'r blwch/blychau pleidleisio Gwnewch yn siŵr fod y dogfennau i gyd yn cael eu rhoi yn y pecynnau iawn ac yn cael eu llofnodi fel sy'n briodol Clercod pleidleisio i helpu i bacio pethau yn yr orsaf er mwyn i'r swyddog llywyddu allu gwneud y tasgau pwysig hyn
Iechyd a diogelwch • peidiwch byth â pheryglu diogelwch rhywun yn yr orsaf bleidleisio • byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl o ran diogelwch • archwiliwch y lle'n rheolaidd • os gwelwch chi unrhyw beryglon - ceisiwch ddatrys y broblem • os bydd damwain - dilynwch y weithdrefn • byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm
Gwybodaeth ychwanegol • Manylion cysylltu’r tîm etholiadol • Gwefan y Comisiwn Etholiadol • www.comisiwnetholiadol.org.uk • www.fymhleidlaisi.co.uk • Taflenni Adborth