120 likes | 359 Views
Pythagoras. Hyd ochrau trionglau ongl sgwâr. Trionglau. Problem. Mae angen i ni wybod beth yw hyd yr ochr c , ond nid yw’r diagram wedi’i lunio wrth raddfa. Sut allwn wneud hyn?. c. 5 cm. 8 cm. Mr. Pythagoras.
E N D
Pythagoras Hyd ochrau trionglau ongl sgwâr
Problem Mae angen i ni wybod beth yw hyd yr ochr c, ond nid yw’r diagram wedi’i lunio wrth raddfa. Sut allwn wneud hyn? c 5 cm 8 cm
Mr. Pythagoras Roedd Pythagoras o Samos yn fathemategydd o Wlad Groeg, a fu’n byw rhwng 582 CC – 507CC. Yn ogystal â mathemateg, roedd yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth, seryddiaeth ac athroniaeth, ond fe’i gelwid yn ‘dad rhifau’. Credodd bod gan bopeth gysylltiad â mathemateg. Ni wyddom ai Pythagoras ei hun a ddyfeisiodd ei theorem enwog, gan ei fod yn arfer yn ei ddyddiau ef i roi’r clod i’r athro ar gyfer gwaith y disgyblion. Yn wir, mae tystiolaeth yn dangos bod yr Eifftwyr a’r Tseiniaid yn gwybod y fformiwla ymhell cyn amser Pythagoras, er na roesant enw arno, a ni roddir ei enw arno tan 500 o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, yng ngwaith Cicero a Plutarch.
c b a Theorem Pythagoras Enghraifft 1: Os yw a=6cm a hyd b yw 5cm, beth yw hyd c? Enghraifft 2: Os yw b=4cm a hyd a yw 3cm, beth yw hyd c?
c b a Theorem Pythagoras • Gan ddefnyddio’r fformiwla, canfyddwch hyd c yn y cwestiynau canlynol: • a = 5cm, b = 8cm • a = 4cm, b = 6cm • a = 7cm, b = 9cm • a = 11cm, b = 2cm • a = 3cm, b = 5cm • a = 1cm, b = 1cm • a = 9cm, b = 12cm • a = 5cm, b = 17cm • a = 6cm, b = cm • a = 9cm, b = 8cm
c b a Canfod hyd ochr Hyd yn hyn, rydym wedi gorfod canfod yr hypotenws o wybod a a b. Beth sy’n digwydd mewn achosion lle mae angen canfod c? Enghraifft 1: O wybod bod a=6 a c=11, beth yw hyd b? Enghraifft 2: Beth yw hyd a os yw b=7m a c=9m? • Canfyddwch hyd yr ochr sydd ar ôl yn y canlynol: • a=8cm c=11cm • b=9m c=20m • a=2m c=4m • b=7cm c=29cm • a=38cm c=41cm • b=19m c=120m
Cwestiwn arholiad Beth yw hyd AC? Beth yw hyd DE?
Pythagoras ym mywyd bob dydd • Mae gan ddyn golchi ffenestri ysgol sy’n 4m. Mae eisiau i’r ysgol orffwys ar waelod ffenestri sy’n 3m i fyny. Pa mor bell o’r tŷ y mae’n rhaid i’r ysgol fod? • Mae gan ysgol neuadd o hyd 25m, a lled o 15m. Beth yw’r pellter o un cornel y neuadd i’r llall? • Mae peldroediwr yn dweud mai 143m yw hyd cae pêl-droed o un cornel i’r cornel cyferbyn. Os 80m yw hyd un o ochrau’r cae, beth yw hyd ochr arall y cae? • 20m yw’r hyd o un cornel sgwâr i’w gornel cyferbyn. Beth yw hyd ei ochrau? • Mae gan driongl hafalochrog ochrau o 10cm. Beth yw arwynebedd y triongl? • Canfyddwch hyd yr ochrau coll yn y canlynol:
5 4 3 Triawdau arbennig Rhowch gynnig ar brofi’r rhai canlynol: a=6 b=8 c=10 a=5 b=12 c=13 a=8 b=15 c=17 a=7 b=24 c=25 a=20 b=21 c=29 a=11 b=60 c=61 a=13 b=84 c=85 a=12 b=35 c=37 a=16 b=63 c=65 a=36 b=77 c=85 a=9 b=40 c=41 a=33 b=56 c=65 a=39 b=80 c=89 a=28 b=45 c=53 a=48 b=55 c=73 a=65 b=72 c=87 Dyma un o driawdau arbennig Pythagoriaidd. Faint rhagor sydd yna?