270 likes | 462 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith GRWP. AGENDA. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a Thimau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD.
E N D
AGENDA • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant a Thimau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
Deddfau v hawliau • Mae rhai deddfau’n cyfateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i fyw / Deddfau llofruddiaeth • Mae rhai deddfau’n gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i gyfiawnder / cadw am 28 diwrnod heb achos llys
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad • Grŵp monitro
Pwerau datganoledig • Addysg • Gwaith ieuenctid • Chwarae • Datblygu cymunedol • Gwasanaethau Cymdeithasol • Pwerau annatganoledig • Heddlu • Gwasanaeth Erlyn y Goron • Llysoedd • Y ddalfa PWERAU DATGANOLEDIG AC ANNATGANOLEDIG Timau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I weithwyr timau troseddau ieuenctid 1 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod oedolion a phlant yn deall hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys yr heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol • Gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am wahaniaethu yn erbyn plant a’i atal • Sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys cyfiawnder troseddol • Cyflwyno ymchwiliadau awtomatig, annibynnol i unrhyw farwolaeth neu anaf difrifol annisgwyl i blentyn • Trin gynnau taser a dyfeisiau tebyg fel arfau, gan ddilyn yr un rheolau ag unrhyw arfau eraill • Rhoi’r gorau i ddefnyddio pob dyfais niweidiol ar blant
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I weithwyr timau troseddau ieuenctid 2 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau parch i farn plant yn y teulu, yr ysgol, cymunedau a sefydliadau • Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn mewn achosion llys ac achosion eraill • Meddwl eto am y defnydd o ASBOs • Meddwl eto am y defnydd o ddyfeisiau mosgito a mesurau eraill sy’n atal Erthygl 15 (hawl i gyfarfod eraill) • Gwneud mwy i barchu preifatrwydd plant yn y cyfryngau ac osgoi codi cywilydd ar blant yn gyhoeddus • Sicrhau bod ataliad yn cael ei ddefnyddio fel y dewis olaf, i atal niwed i’r plentyn • Gwahardd pob math o atal plant yn gorfforol er mwyn ‘disgyblu’
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I weithwyr timau troseddau ieuenctid 3 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Darparu addysg a hyfforddiant ar sut i fagu plant yn gadarnhaol i rieni ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant • Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o drais, cam-drin, esgeulustod neu ecsbloetio sy’n digwydd mewn sefydliadau • Gwario mwy o arian ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ac ehangu gwasanaethau. Dylai gwasanaethau ganolbwyntio ar rai grwpiau yn cynnwys plant yn y system cyfiawnder troseddol • Ymchwilio i pam mae pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cyffuriau ac alcohol • Gwella gwasanaethau iechyd meddwl a chwnsela i bobl ifanc yn eu harddegau • Darparu gwybodaeth glir a chywir am gyffuriau ac alcohol i blant. Gwneud mwy i helpu plant i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I weithwyr timau troseddau ieuenctid 4 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Codi oedran cyfrifoldeb troseddol • Canfod atebion eraill yn lle rhoi plant sydd mewn trafferth gyda’r heddlu yn y ddalfa 21. Sicrhau mai’r dewis olaf fydd rhoi plant yn y ddalfa a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl 22. Sicrhau na fydd plant yn gorfod sefyll eu prawf mewn llys fel oedolyn, waeth pa mor ddifrifol yw’r drosedd 23. Sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei gadw mewn carchar gydag oedolion 24. Sicrhau bod gan bob plentyn sy’n cael ei gadw yn y ddalfa hawl gyfreithiol i addysg
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR TIMAU TROSEDDAU IEUENCTID 1 • Erthygl 3 – lles gorau’r plentyn • Erthygl 12 – hawl i gael dy glywed • Erthygl 13 – rhyddid mynegiant • Erthygl 14 – dylai llywodraethau barchu hawliau plant i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd • Erthygl 15 – hawl i gyfarfod ag eraill • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd • Erthygl 17 – mynediad i wybodaeth briodol • Erthygl 18 – mae’r ddau riant yn rhannu cyfrifoldeb am fagu eu plant • Erthygl 19 – amddiffyn rhag cam-drin ac esgeulustod
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR TIMAU TROSEDDAU IEUENCTID 2 • Erthygl 23 – mae gan blant anabl yr hawl i ofal, addysg a hyfforddiant arbennig i fwynhau bywyd llawn • Erthygl 27 – hawl i safon byw sy’n ddigonol i’w datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol • Erthygl 31 – hawl i ymlacio, chwarae a gweithgareddau diwylliannol • Erthygl 33 – amddiffyn rhag cyffuriau anghyfreithlon • Erthygl 37 – hawliau/amddiffyniad wrth golli rhyddid • Erthygl 40 – gweinyddu cyfiawnder ieuenctid