240 likes | 406 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant ar gyfer swyddogion cynllunio a pholisi addysg Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD.
E N D
agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant ar gyfer swyddogion cynllunio a pholisi addysg • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth Cymru) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru • Grŵp monitro
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI ADDYSG 1 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn eu deall • Sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i bopeth sy’n digwydd mewn ysgolion • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys athrawon • Sicrhau bod y teulu, yr ysgol, cymunedau a sefydliadau’n parchu barn plant • Sicrhau bod cosb gorfforol yn cael ei gwahardd yn bendant mewn ysgolion • Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o drais, cam-drin rhywiol, esgeulustod, triniaeth wael neu ecsbloetio a geir mewn ysgolion • Sicrhau bod athrawon yn gwybod am eu dyletswydd i adrodd am achosion lle yr amheuir trais domestig sy’n effeithio ar blant a mynd i’r afael â’r achosion hyn
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI ADDYSG 2 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant i athrawon sy’n gweithio gyda phlant anabl • Darparu gwasanaethau ac addysg gwell ym maes rhyw a pherthnasoedd a sicrhau bod ysgolion yn darparu addysg rhyw • Gwneud mwy i sicrhau nad yw cefndir plant (ble maent yn byw, addysg rhieni, incwm) yn effeithio ar eu cyrhaeddiad yn yr ysgol • Gwario arian i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg cwbl gynhwysol • Sicrhau bod plant nad ydynt yn mynd i’r ysgol yn cael addysg ragorol • Gwahardd disgyblion dros dro ac yn barhaol fel y dewis olaf yn unig
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI ADDYSG 3 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Gwneud mwy i leihau nifer y plant sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol • Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr ar gael mewn ysgolion • Gwneud mwy i atal bwlio a thrais mewn ysgolion, yn cynnwys defnyddio addysg am hawliau dynol a goddefgarwch • Cael plant i gymryd mwy o ran ym mhopeth sy’n effeithio arnynt yn yr ysgol • Sicrhau bod plant yn cael yr hawl i apelio yn erbyn eu gwaharddiad • Sicrhau bod pob plentyn yn gallu apelio i dribiwnlys AAA am yr addysg a’r cymorth a dderbyniant
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI ADDYSG 1 • Erthygl 12 – hawl i gael dy glywed • Erthygl 13 – rhyddid i fynegi barn • Article 14 – dylai llywodraethau barchu hawliau plant i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd • Erthygl 17 – hawl i wybodaeth briodol • Errhygl 18 – mae’r ddau riant yn rhannu cyfrifoldeb am fagu eu plant • Erthygl 19 – amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL i SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI ADDYSG 2 • Erthygl 23 – mae gan blant anabl hawl i ofal, addysg a hyfforddiant arbennig i fwynhau bywyd llawn • Erthygl 28 – hawl i addysg • Erthygl 29 – dylai addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd meddyliol a chorfforol plentyn yn llawn • Erthygl 31 – hawl i ymlacio, chwarae ac ymuno mewn gweithgareddau diwylliannol