50 likes | 165 Views
Cyflwyniad i Gyfraddau Llog. Cyfraddau Llog. Cyfraddau llog yw'r gost o fenthyca arian.
E N D
Cyfraddau Llog • Cyfraddau llog yw'r gost o fenthyca arian. • Mae Banc Lloegr yn gosod y Gyfradd Sylfaenol, sydd yn ganllaw i ddarparwyr benthyciadau eraill. Yn gyffredinol, mae banciau a chymdeithasau adeiladu'n newid y cyfraddau llog a godir ganddynt yn unol â'r newidiadau yn y Gyfradd Sylfaenol. • Y prif reswm am i Fanc Lloegr newid y Gyfradd Sylfaenol yw er mwyn rheoli chwyddiant, ond mae hefyd yn ystyried cyflwr yr economi – beth sy'n digwydd i ddiweithdra a thwf.
Newidiadau i'r Gyfradd Sylfaenol yn y Gorffennol Mae'r siart yn dangos sut mae'r Gyfradd Sylfaenol wedi newid dros y 25 mlynedd diwethaf. Ar ei huchaf cyrhaeddodd 15%, ond dros y 10 mlynedd diwethaf nid yw wedi bod yn uwch na 6%. Yn 2009 gostyngwyd y gyfradd sylfaenol i 0.5%, ac mae wedi aros ar y lefel isaf erioed hon.
Effaith cynnydd mewn cyfraddau llog • mae pobl yn gwario mwy ar dalu morgeisi, felly mae llai o arian dros ben i’w wario • mae pobl yn llai tebygol o fenthyca gan fod cost benthyciadau wedi cynyddu, felly llai o wario • mae cwmnïau'n benthyca llai er mwyn buddsoddi • mae hyn oll yn golygu llai o alw yn yr economi, felly dylai chwyddiant ostwng, ond gall cwmnïau fynd i'r wal, a gall gweithwyr golli eu swyddi.
Effaith gostyngiad mewn cyfraddau llog • mae pobl yn gwario llai ar dalu morgeisi, felly mae mwy o arian dros ben i’w wario • mae pobl yn fwy tebygol o fenthyca gan fod cost benthyciadau wedi gostwng, felly gwelir mwy o wario • mae cwmnïau'n benthyca mwy er mwyn buddsoddi • mae hyn oll yn golygu bod galw'n cynyddu yn yr economi, a bod swyddi'n cael eu creu.