70 likes | 260 Views
Cyflwyniad i Drethiad. Mathau o Dreth. Mae'r rhan fwyaf o drethi'n syrthio o fewn un o ddau grŵp Trethi Uniongyrchol – treth ar incwm neu elw Trethi Anuniongyrchol – treth ar wariant.
E N D
Mathau o Dreth • Mae'r rhan fwyaf o drethi'n syrthio o fewn un o ddau grŵp • Trethi Uniongyrchol – treth ar incwm neu elw • Trethi Anuniongyrchol – treth ar wariant Yn y gorffennol byddai'r ddau grŵp hyn yn cwmpasu'r rhan fwyaf o drethi, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld trethi newydd sydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd – rydym yn galw'r rhain yn ‘Drethi Gwyrdd’.
Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elw • Treth Incwm – treth ar incymau. Ceir lwfans di-dreth, sy'n golygu na chodir treth ar y £7,500 cyntaf o incwm. Yna ceir tri band o dreth incwm, 20%, 40% a 50%. • Yswiriant Gwladol – treth arall ar incwm, a delir ar gyfradd o 12% ar incwm rhwng £7,500 a £45,000, a 2% uwchben hynny. • Treth Gorfforaeth – treth ar elw cwmni, a delir ar gyfradd o 26%.
Trethi Anuniongyrchol • TAW (Treth ar Werth) – ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau, ar gyfradd o 20%. Ni chodir TAW ar ddillad plant, bwyd (ond codir TAW mewn bwytai, ac ar fwyd o siopau prydau parod), llyfrau, papurau newydd, teithiau awyr. Cyfradd TAW o 5% ar Nwy a Thrydan. • Tollau Tramor a Chartref – codir y tollau hyn ar win, cwrw, gwirodydd, petrol, a sigaréts. Codir toll gartref o tua £3.10 ar 20 o sigaréts, a tholl gartref o 58c ar litr o betrol ynghyd â TAW o 20c!
Trethi Gwyrdd – a luniwyd er mwyn diogelu'r amgylchedd • Treth Teithwyr Awyr – telir hon ar deithiau awyr, mae'r swm yn dibynnu ar ba mor hir yw'r daith. • Toll Tirlenwi – treth ar gladdu sbwriel – mae'r dreth hon yn un o'r rhesymau pam fod cynghorau'n annog ailgylchu. • Treth Newid yn yr Hinsawdd – treth ar fusnesau mawrion am ddefnyddio egni.