1 / 8

Cyflwyniad i Chwyddiant

Cyflwyniad i Chwyddiant. Diffinnir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’.

Download Presentation

Cyflwyniad i Chwyddiant

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i Chwyddiant

  2. Diffinnir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’ • Mae'r llywodraeth yn ceisio mesur chwyddiant bob mis drwy brisio basged o nwyddau sy'n ceisio copïo gwariant teulu cyfartalog ar incwm cyfartalog. Y prif fesur o chwyddiant yw'r Indecs Prisiau Defnyddwyr – y CPI. • Mae'r ‘fasged o nwyddau’ yn cynnwys bwyd, teithio, gwyliau, yswiriant, dillad, nwyddau trydanol, dodrefn a gweithgareddau hamdden fel tocynnau sinema. Mae'r llywodraeth yn casglu prisiau'r fasged o nwyddau bob mis. • Mae 650 o nwyddau yn y fasged – ac mae'r rhain yn newid gydag amser. Rhai o'r nwyddau newydd diweddaraf a ychwanegwyd at y fasged yw ffonau smart ac apps, a ffioedd asiantaethau chwilio am gariad!

  3. Hanes Chwyddiant • Mae gan Fanc Lloegr fideo byr ar hanes chwyddiant - dolen Mae'r siart uchod yn dangos chwyddiant yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Er bod rhai o'r brigau’n edrych yn uchel, bu chwyddiant yn uwch na 5% am 1 mis yn unig, a'r gyfradd gyfartalog yw tua 3%.

  4. Chwyddianty DU yn yr 1970au Cymharwch chwyddiant isel y DU dros y deng mlynedddiwethaf â lefelauchwyddiant yr 1970au. Gan ddechrau ar tua 6% yn 1970, erbyn 1976 roedd chwyddiant wedi cynyddu ifwyna 20%!

  5. Pam mae lefelau uchel o chwyddiant ynwael? • Mae prisiau uwch am nwyddau’r DU yn golygu ein bod yn allforio llai – felly caiff swyddi eu colli. • Mae cwmnïau'n buddsoddi llai, sy'ngolygullai o swyddi yn y dyfodol. • Mae nwyddau a wneir dramor yn dod ynrhatacho’ucymharu â nwyddau a wneir yn y DU, felly mae mewnforion yn cynyddu – collir mwy o swyddi. • Oni bai fod gweithwyr yn caelcodiadyneucyflog sydd o leiafmoruchel â chwyddiant, byddeusafon byw yn gostwng. • Yn aml mae chwyddiant uchel yn golygu cyfraddau llog uchel – efallai na fydd pobl yn gallu ad-dalueumorgeisiau, felly maen nhw'n colli eu cartrefi, ac oherwyddcostau benthyca uwch gall cwmnïau fynd i'r wal. • Mae pobl sydd â chynilion yngweld bod gallu gwario eu cynilion yn gostwng – felly maen nhw'n mynd yn dlotach.

  6. Gorchwyddiant • Ar adegau prin iawn, mae chwyddiant yn mynd dros ben llestri, ac mae prisiau'n dechrau saethu i fyny – gall prisiau ddyblu mewn blwyddyn, neu fis neu hyd yn oed ddiwrnod! • Yn yr Almaen ym 1922-23, cododd prisiau fwy nag ychydig. • Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 1922 roedd chwyddiant yn 600% • Dros y flwyddyn nesaf cynyddodd i 18000% • Ac erbyn diwedd 1923, roedd prisiau nwyddau 1 filiwn gwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol – pe bai hyn yn digwydd yn y DU byddai torth o fara'n costio £1 filiwn, litr o betrol yn costio £1,300,000, iPadyn costio £400,000,000.

  7. Mynd i siopa yn yr Almaen yn 1923 Llosgi arian i gadw’n gynnes

  8. Sut mae'r llywodraeth yn rheoli chwyddiant? • Mae gan y llywodraeth darged chwyddiant o 2%. • Er mwyn cadw chwyddiant o gwmpas y lefel hon, mae'n gofyn i Fanc Lloegr newid cyfraddau llog, yn ôl yr amgylchiadau economaidd. • Prisiau'n cynyddu – cyfraddau llog yn mynd i fyny. • Prisiau'n gostwng – cyfraddau llog yn mynd i lawr. • Mae'r system hon wedi gweithio'n eithaf da dros y 15 mlynedd diwethaf, ond mae problemau ar hyn o bryd – am ragor o wybodaeth edrychwch ar y nodiadau a'r PowerPoint ar Gyfraddau Llog.

More Related