250 likes | 421 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a’r rhai sy’n gweithio ym maes mewnfudo, ffoaduriaid a cheiswyr lloches Myfyrio a gwerthuso.
E N D
agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant a’r rhai sy’n gweithio ym maes mewnfudo, ffoaduriaid a cheiswyr lloches • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad • Grŵp monitro
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 1 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys gweithwyr mewnfudo • Gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am wahaniaethu yn erbyn plant ac atal hyn. Efallai y bydd angen cynnwys gwaith i helpu rhai grwpiau, yn cynnwys plant sydd wedi mewnfudo, ffoaduriaid ifanc a cheiswyr lloches • Gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys ym maes mewnfudo • Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn yn y llysoedd ac mewn unrhyw achosion eraill sy’n effeithio ar y plentyn • Monitro plant sy’n byw mewn gofal maeth, cartrefi a sefydliadau plant, yn cynnwys ymweld â’r plant hyn yn rheolaidd
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 2 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Gwneud mwy i sicrhau mai dewis olaf yn unig fydd cloi plant mudol a cheiswyr lloches a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl • Sicrhau bod Asiantaeth Ffiniau’r DU yn cyflogi staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i gyfweld plant • Meddwl am roi gwarcheidwaid i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac yn ffoaduriaid a fydd yn gofalu am les y plant hyn • Darparu ffigurau am niferoedd y plant sy’n ceisio lloches yn y DU, yn cynnwys y rhai lle mae yna amheuaeth am eu hoedran • Credu plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches os bydd yna amheuon am eu hoedran a’u trin fel plant • Cael cyngor gan arbenigwyr ar sut i benderfynu a yw rhywun o dan neu dros 18 oed
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 3 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau, os yw plant sy’n ceisio lloches neu’n ffoaduriaid yn cael eu hanfon yn ôl i’w mamwlad, y bydd gwiriadau’n cael eu gwneud i sicrhau y bydd y plentyn yn ddiogel. • Newid y gyfraith i atal plant sy’n dod i’r DU heb ddogfennau dilys rhag cael eu herlyn • Darparu digon o arian i roi’r Cynllun Gweithredu Atal Masnachu mewn Pobl ar waith • Cymeradwyo Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl • Sicrhau bod rheolau amddiffyn plant ar gyfer plant sydd wedi’u masnachu yn bodloni safonau rhyngwladol
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 1 • Erthygl 7 – hawl i gael enw a gofrestrwyd yn gyfreithiol ac i genedligrwydd • Erthygl 8 – dylai Llywodraethau barchu hawl plant i enw, cenedligrwydd a chysylltiadau teulu • Erthygl 9 – ni ddylid dy wahanu oddi wrth dy rieni onid yw hynny er dy les dy hun • Erthygl 10 – dylai teuluoedd sy’n byw mewn gwledydd gwahanol gael yr hawl i symud rhwng y gwledydd hynny fel y gall y rhieni a’r plant gadw mewn cysylltiad • Erthygl 11 – dylai Llywodraethau gymryd camau i atal plant rhag cael eu cymryd allan o’u gwledydd nhw’u hunain yn anghyfreithlon
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 2 • Erthygl 13 – hawl i wybodaeth • Erthygl 14 – hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynni • Erthygl 20 – os na all dy deulu dy hun ofalu amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol gan bobl sy’n parchu dy grefydd, diwylliant ac iaith • Erthygl 22 – mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a anwyd yng Nghymru • Erthygl 30 – hawl i ddysgu a defnyddio iaith ac arferion dy deulu • Erthygl 35 – Dylai’r Llywodraeth sicrhau na chei di dy gipio na dy werthu