260 likes | 445 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a gweithwyr cymdeithasol Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD. Cyffredinol
E N D
agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant a gweithwyr cymdeithasol • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad • Grŵp monitro
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR cymdeithasol 1 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol • Defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddiogelu hawl plentyn i fyw • Cyflwyno ymchwiliadau awtomatig, annbiynnol a chyhoeddus i unrhyw farwolaeth neu anaf difrifol i blentyn • Sicrhau bod parch i farn plant yn y teulu ac mewn sefydliadau yn cael ei hyrwyddo a’i roi ar waith • Hyrwyddo parch i farn plant mewn llysoedd a sefydliadau eraill sy’n effeithio ar blant
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR cymdeithasol 2 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod ataliad ond yn cael ei ddefnyddio fel dewis olaf, i atal niwed i’r plentyn • Gwahardd pob math o atal plant yn gorfforol fel ffordd o ‘ddisgyblu’ • Gwahardd pob math o gosb gorfforol yn y teulu • Sicrhau bod cosb gorfforol yn cael ei gwahardd mewn sefydliadau gofal a sefydliadau eraill • Ei gwneud hi’n llai derbyniol taro plant trwy hyrwyddo dulliau di-drais o’u disgyblu 11. Darparu addysg a hyfforddiant ar sut i fagu plant yn gadarnhaol i rieni ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR cymdeithasol 3 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Defnyddio Astudiaeth y Cenhedloedd Unedig o Drais yn erbyn plant i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei ddiogelu rhag pob math o drais corfforol, rhywiol a meddyliol • Cynnig rhagor o gymorth i rieni a gwarcheidwaid fagu eu plant • Sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal oherwydd nad yw eu rhieni’n ennill llawer o arian • Ystyried barn plant ym mhopeth sy’n ymwneud â’r teulu neu o fod mewn gofal • Monitro plant sy’n byw mewn gofal maeth, cartrefi gofal neu sefydliadau, a phlant sy’n derbyn gofal gan aelodau eraill o’r teulu.
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR cymdeithasol 4 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Deall pam mae cymaint o blant mewn cartrefi gofal hirdymor 18. Sicrhau y gellir dechrau trefniadau cyswllt fel y gall plant sy’n byw ar wahân i’w rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd gael cyswllt gyda nhw 19. Darparu hyfforddiant ac addysg i helpu i baratoi plant sy’n byw mewn gofal neu mewn sefydliadau ar gyfer bywyd fel oedolion • Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o gam-drin sy’n digwydd mewn teuluoedd, ysgolion, sefydliadau a phob math o ofal 21. Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn gwybod am eu dyletswydd i adrodd am achosion lle yr amheuir trais domestig sy’n effeithio ar blant a’u bod yn mynd i’r afael â’r achosion hyn
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR cymdeithasol 5 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod yna wasanaethau da i helpu plant sydd wedi’u cam-drin • Darparu hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant anabl ar hawliau plant • Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol ar gael mewn ysgolion i blant sy’n cael problemau yn yr ysgol • Sicrhau bod gan blant sy’n byw mewn gofal rywun i gynrychioli ac amddiffyn eu buddiannau • Sicrhau bod rheolau amddiffyn plant ar gyfer plant sy’n cael eu masnachu yn bodloni safonau rhyngwladol
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR CYMDEITHASOL 1 • Erthygl 5 – parchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant • Erthygl 6 – hawl i fyw a goroesi a datblygu’n iach • Erthygl 9 – hawl i beidio â chael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni onid yw hynny er eu lles eu hunain a chadw mewn cysylltiad â’r ddau riant • Erthygl 12 – hawl i gael eu clywed a chael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw • Erthygl 13 – hawl i gael a rhannu gwybodaeth • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I WEITHWYR CYMDEITHASOL 2 • Erthygl 19 – amddiffyn rhag cam-drin corfforol ac esgeulustod • Erthygl 20 – os na all dy deulu dy hun ofalu amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol • Erthygl 25 – dylid adolygu sefyllfa plant sydd mewn gofal yn rheolaidd • Erthygl 28 – hawl i addysg • Erthygl 34 – amddiffyn rhag cam-drin corfforol • Erthygl 36 – amddiffyn rhag gweithgareddau a allai niweidio plentyn • Erthygl 39 – os yw plentyn wedi’i gam-drin, dylai dderbyn cymorth arbennig i adfer hunan-barch