70 likes | 185 Views
Cyflwyniad i Drethi. Mathau o Drethi. Mae'r rhan fwyaf o drethi yn perthyn i un o ddau grŵp: Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elw Trethi Anuniongyrchol – trethi ar wariant.
E N D
Mathau o Drethi • Mae'r rhan fwyaf o drethi yn perthyn i un o ddau grŵp: • Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elw • Trethi Anuniongyrchol – trethi ar wariant Yn y gorffennol byddai'r ddau grŵp hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o drethi, ond dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd trethi newydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd – y term am y rhain yw ‘Trethi Gwyrdd’.
Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elw • Treth Incwm – treth ar incwm. Mae lwfans di-dreth, sy'n golygu na chodir treth ar y £7,500 cyntaf o incwm. Yna mae tri band o dreth incwm, sef 20%, 40% a 50%. • Yswiriant Gwladol – treth arall ar incwm, sy’n cael ei thalu ar gyfradd o 12% ar incwm rhwng £7,500 a £45,000, a 2% uwchben hynny. • Treth Gorfforaeth – treth ar elw cwmni, sy’n cael ei thalu ar gyfradd o 26%.
Trethi Anuniongyrchol • TAW (Treth ar Werth) – ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau, ar gyfradd o 20%. Ni chodir TAW ar ddillad plant, bwyd (ond codir TAW mewn tai bwyta, ac ar fwyd o siopau prydau parod), llyfrau, papurau newydd, teithiau awyr. Mae cyfradd TAW o 5% ar nwy a thrydan. • Tollau Ecseis – codir y tollau hyn ar win, cwrw, gwirodydd, petrol, a sigaréts. Codir toll ecseis o tua £3.10 ar becyn o 20 sigarét, a tholl ecseis o 58c ar litr o betrol ynghyd â TAW o 20c!
Trethi Gwyrdd – a luniwydermwyndiogelu'r amgylchedd • Treth Teithwyr Awyr – i’wthaluar deithiau awyr, mae'r swm yn dibynnu ar ba mor hir yw'rdaith. • Treth Tirlenwi – treth ar gladdu sbwriel – mae'r dreth hon yn un o'r rhesymau pammae cynghorau'n annogailgylchu. • Treth Newid yn yr Hinsawdd – treth arfusnesaumawr am ddefnyddioegni.