50 likes | 167 Views
Cyflwyniad i Gyfraddau Llog. Cyfraddau Llog. Cyfraddau llog yw c ost benthyca arian.
E N D
Cyfraddau Llog • Cyfraddau llog yw cost benthyca arian. • Mae Banc Lloegr yn gosod y Gyfradd Sylfaenol, sy’n arweiniad i ddarparwyr benthyciadau eraill. Yn gyffredinol, mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn newid y cyfraddau llog a godir ganddynt yn unol â'r newidiadau yn y Gyfradd Sylfaenol. • Y prif reswm mae Banc Lloegr yn newid y Gyfradd Sylfaenol yw er mwyn rheoli chwyddiant, ond mae hefyd yn ystyried cyflwr yr economi – beth sy'n digwydd i ddiweithdra a thwf.
Y Gyfradd Sylfaenol yn y Gorffennol Mae'r siart yn dangos sut mae'r Gyfradd Sylfaenol wedi newid dros y 25 mlynedd diwethaf. Ar ei huchaf cyrhaeddodd 15%, ond dros y 10 mlynedd diwethaf ni fu’n uwch na 6%. Yn 2009 gostyngwyd y gyfradd sylfaenol i 0.5%, y lefel isaf erioed, ac mae wedi aros ar y lefel hon.
Effaith cynnyddyngnghyfraddau llog • mae pobl yn gwario mwy ar ad-dalu morgeisiau, felly mae llai o arian dros ben i’w wario • mae pobl yn llai tebygol o gael benthyg gan fod cost benthyciadau wedi cynyddu, felly llai o wario • mae cwmnïau'n benthyca llai ar gyfer buddsoddi • mae hyn oll yn golygu llai o alw yn yr economi, felly dylai chwyddiant ostwng, ond gall cwmnïau fynd i'r wal a gall gweithwyr golli eu swyddi
Effaithgostyngiadyngnghyfraddaullog • mae pobl yn gwario llai ar ad-dalu morgeisiau, felly mae mwy o arian dros ben i’w wario • mae pobl yn fwy tebygol o gael benthyg gan fod cost benthyciadau wedi gostwng, felly mae mwy o wario • mae cwmnïau'n benthyca mwy ar gyfer buddsoddi • mae hyn oll yn golygu bod galw'n cynyddu yn yr economi, a bod swyddi'n cael eu creu